Beth yw gwerth hanes bwyd Cymru? Pwysigrwydd ein treftadaeth i’n dyfodol

Dyma ail-weithio a chyhoeddi rhan o’m cyflwyniad yng nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2020: Dyw tirlun bwyd Cymru heddiw ddim byd tebyg i’r hyn ydoedd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Dychmygwch y peth: gwlad o ffermydd cymysg yn bwydo ar y cyfan eu hardaloedd lleol,gyda diwylliant cryf o gynhyrchu cwrw bach a seidr, tyfu ffrwythau […]

7. Bwyd a bro

Mae brogarwch yn nodwedd gydnabyddedig o ddiwylliant y Cymry,  a hynny yr un mor wir yn 2020 ag ydoedd yn oes hen ŵr Pencader, a’i eiriau chwedlonol i Frenin Lloegr a ddyfynnwyd gan Gerallt Gymro yn ei ‘Ddisgrifiad o Gymru’: Ac nid unrhyw genedl arall, fel y barnaf fi, amgen na hon o’r Cymry, nac […]

6. Economi bwyd gwerin Cymru, 1550-1750

Yn yr ysgrif diwethaf, cawsom le i ystyried un wrth-ddadl i’r syniad y byddai dosbarthiadau is Cymru yn efelychu patrymau bwyd y dosbarthiadau uwch, sef bod y bwlch cymdeithasol rhyngddynt mor sylweddol yng Nghymru (oherwydd e.e. iaith, ethnigrwydd, profiadau neu grefydd) fel na allai hyn ddigwydd – a diystyru hynny. Un wrth-ddadl sylweddol arall sydd, […]