9. Sbeis

Soniwyd eisoes sawl tro yn y gyfres hon o ysgrifau am y peth annelwig hwnnw, ‘diwylliant bwyd Cymru’. Mae’n annelwig mewn sawl ffordd: am nad yw’n gysyniad cyfarwydd mewn trafodaeth Gymraeg am ddiwylliant Cymru; am nad yw’n derm a ddefnyddir gan haneswyr Cymru; am nad yw’n gwbl amlwg i Gymru feddu ar ‘ddiwylliant bwyd’ hyd yn oed, yn awr nac yn y gorffennol  – ac yn bennaf oll am na ddiffiniwyd y term eto (hyd y gwn i).

Dyma feiddio bwrw at i’w ddiffinio felly, a hynny trwy fynd i’r afael â’r cwestiynau yr ydym yn ymdroi yn eu cylch yma: sut gallwn ddeall hanes bwyd Cymru yn ei grynswth? Hanes bwyd pwy yw’r hanes yna? Pa fwydydd sydd o dan sylw wrth feddwl am fwydydd hanesyddol Cymru? Ai bwyd y werin Gymraeg yw bwyd Cymru yn bennaf – neu yn unig? O dipyn i beth felly y down i weld cwmpas posib y term ‘bwyd Cymru’, ac yn sgil hynny y bydd modd meddwl yn ystyrlon am ystyr ‘diwylliant bwyd Cymru’.

Sbeis

Er mwyn dechrau ar yr ymgais i ddiffinio bwyd Cymru, ystyriwyd mewn sawl ysgrif gwestiwn y tai mawrion a’u bwyd, a’r berthynas rhwng hynny â bwyd gweddill y boblogaeth.

Ac un lle da i barhau â’r ymgais yw trwy ystyried hanes sbeisis yng Nghymru, gan edrych ar sunsur yn benodol y tro hwn. Dosbarth o fwydydd perthnasol iawn i’r drafodaeth hon yw sbeisys, am eu bod bron yn ddieithriaid yn fwydydd a fewnforir i Gymru, ac felly o reidrwydd yn estron, ac yn anoddach i’r werin gael gafael arnynt na’r dosbarthiadau uwch. . Er eu hestronrwydd digwestiwn, aeth nifer da o sbeisis yn ddanteithbethau mor gyfarwydd i’r Cymry, fel llawer o ddiwylliannau eraill Gogledd-orllewin Ewrop, nes mynd yn ddiarhebol o gartrefol. Os oes y fath beth â diwylliant bwyd Cymreig yn hanesyddol, mae penderfynu a yw estronbeth fel sbeis yn perthyn iddo yn sylfaenol i’r drafodaeth

Rydym yn ceisio canolbwyntio ar y cyfnod rhwng tua 1500 a 1750 yn y gyfres hon o ysgrifau, ond mae cwpled gan y bardd Tudur Aled (1465 – 1525) yn cynnig dechreubwynt da wrth son am sbeis:

Mae ar ginio mawr Gwynedd / Enw ysbîs Ynys y Bedd; / Sinamwn, saffrwn, a sens.[1]

Dyma un o’r troeon cyntaf i’r gair benthyg ‘sbeis’/ ‘ysbis’ gael ei ddefnyddio yn y Gymraeg, a hynny yn y 15fed ganrif. Mae’n crybwyll enghreifftiau penodol o sbeisys a weinid ar fwrdd uchelwr yng Ngwynedd yn ei ddydd: sinamwn, saffrwn a sens (=incense). Tua diwedd y 14eg ganrif yr oedd rosmari a saffrwn yn dechrau ennill eu plwyf yn Lloegr, gyda sawl cofnod o bobl yn ei dyfu i’r farchnad yn swyddi Essex a Hertfordshire erbyn yr 1450au.[2] Ceir cyfeiriadau at saffrwn yn cyrraedd porthladd Caerwysg yn Nyfnaint mor gynnar â 1313.[3] Erbynh ail hanner y 15fed ganrif ceir cofnodion manwl o fasnachwyr Eidalaidd yn mewnforio turmeric, sunsur, sinamwn, ciwmin a chlows yn rheolaidd i borthladdoedd Lloegr. Roedd nwyddau niferus eraill yn cyrraedd porthladdoedd Cymru (fel ffigys, eirin sych a resins yn Ninbych-y-Pysgod) erbyn y cyfnod hwn felly gallwn hyderu y byddai sbeisis yn cyrraedd porthladdoedd Penfro, Caerfyrddin neu Fiwmares erbyn oes Tudur Aled yn ogystal.[4] Pa bynnag borthladd a ddefnyddid, mae son am daliadau am sbeis yng nghofnodion castell Rhaglan o’r cyfnod.[5]

Roedd y gair – ac felly’r cysyniad – wedi ennill ei blwyf yn y Gymraeg yn ddigonol erbyn 1547 i  Salesbury gynnig diffiniad ohono yn ei eiriadur, sef: Llyseu sioppeu ne speisys. Dyma awgrym eu bod ar gael i bwy bynnag oedd yn ddigon cyfoethog i ddefnyddio siopau i allu cael mynediad iddynt (nid trwch y boblogaeth!) Yn hwyrach yn ein cyfnod ceir awgrym bod sbeisis ar gael mewn marchnadoedd yn ogystal â siopau – ac felly lled-awgrym eu bod yn mynd yn fwy cyffredin, gan fod marchnadoedd yn hygyrch i gyfran uwch o’r gymdeithas nag a ddefnyddiai siopau. Dyma er enghraifft nodyn yng ngeiriadur Syr Thomas Williams (1604-7): yr Speis, ne’r lhysæ marchnat a elwir … Sinser d.g. Zingiber.

Ac felly erbyn i ni gyrraedd y 19fed ganrif, a galw am sbeisys mewn ryseitiau traddodiadol niferus, gan gynnwys nifer o ryseitiau’r Nadolig, roedd y Cymry wedi bod yn gyfarwydd â’r gair a’r cysyniad am ganrifoedd lawer. Nid gyda dyfodiad rheilffyrdd na’r archfarchnad y daith sbeisys yn rhan o fwyd Cymru – ac mae hanes sunsur yn amlygu hynny.

Sunsur

Yng ngwaith Guto’r Glyn, bardd arall, y ceir y cyfeiriad cyntaf at sunsur yn y Gymraeg:

Sinsir a felir ar fwyd / A graens da rhag yr annwyd. /

Sinamwn, clows a chwmin, / Siwgr, mas, i wresogi’r min.

Ac mae pennill ddigon tebyg iddo gan Lewys Glyn Cothi:

Saffrwm, mas hoff o’r meysydd,
a graens gardd, ac orains gwŷdd,
sugr candi i mi ’mhob modd,
sinser ar ddewis ansodd,
sinamwm, almwns, cwmin,
balsamẃm yw blas ’y min.[6]

Dyma restrau o ddanteithfwydau a ddefnyddid ar fyrddau’r uchelwyr, ac ymhyfrydu amlwg ar ran y beirdd yn y profiad o fwynhau’r blasau cain hyn – yn ogystal â’r statws roddai’r sbeisis hyn i’w noddwir. Enwir yr union dri sbeis gan y beirdd hyn ag y cawn ym mhennill Tudur Aled hefyd, a nodyn diddorol gan Guto’r Glyn y melir y sunsur ar fwyd. Hynny yw, nid newyddbeth anghyfarwydd oedd sunsur i ddosbarthiadau uwch Cymru erbyn y cyfnod hwn: rhywbeth i’w fwyta, ac i’w fwyta ochr yn ochr â sbeisys penodol eraill, megis sinawm a siwgr. Yr un, wrth gwrs, yw rhai o’r cyfuniadau hyn yn ein defnydd ni o’r sbeisys dan sylw – ac hefyd diwylliannau bwyd eraill Gogledd Ewrop, fel yr Almaen. O feddwl am ddiwylliant bwyd fel set o arferion yn ymwneud â bwyd a rennir gan garfan o bobl, ymddengys bod sunsur yn ymgartrefu yn niwylliant bwyd y Cymry erbyn diwedd yr oesoedd canol.

Wedi hynny, cawn erbyn y 16fed ganrif sawl esiampl o gyfeiriadau at sunsur mewn ryseitiau a gyhoeddid yn Gymraeg mewn ffynonellau amrywiol (diolch i waith caled ymchwilwyr Geiriadur Prifysgol Cymru am y rhain hefyd):

c. 1566: y saws yw singer gwedy ratio a mwstart a vynegr.ystraynia drwy laeth yn vrwd a chydag ef lawer o siwgr a sinser yna berw hwynt.

Diwedd. 16g : [c]ymysc ef a ffowdr singir ne suger da.

1759 : sinsir wedi ei falu….

1771 : Cymmerwch Sinsir gwyn.

1800: tair wns o sinsyr a dwy wns o bupyr Iamaica.

Nid syndod mo hyn : o gyfnod cyhoeddi ym 1596 The Good Housewife’s Jewel gan Dawson ac ymlaen, roedd sunsur, ynghyd â sawl sbeis arall yn ymddangos yn rheolaidd mewn llyfrau coginio Saesneg.[7] Gwelid gostyngiad nodedig hefyd ym mhrisiau sbeisys o ddechrau’r 1600au ymlaen, a hynny yn arwain erbyn canol y 18fed ganrif i ffermwr yn Hertfordshire allu disgwyl i fenywod tŷ cyffredin yn ei sir ddefnyddio sinamwn a nytmeg yn rheolaidd wrth bobi. Dyna felly oedd y patrwm yn Lloegr y gallwn ddarllen y cyfeiriadau uchod at sinsir yn y ryseitiau Cymraeg hyn yn ei erbyn.

At hynny, gwyddwn wrth waith R Elwyn Hughes a Bobby Freeman fel ei gilydd mai yn Saesneg yr oedd holl lyfrau coginio’r cyfnod yng Nghymru, â thueddiad cryf ynddynt i ddynwared ryseitiau oedd yn boblogaidd ymhlith bonedd Lloegr ar y pryd. Weithiau cyhoeddid llyfrau coginio i’w prynu, ond mwy cyffredin oedd cyhoeddi llyfr coginio mewn plastai unigol i groniclo y ryseitiau aruchel a baratoid yn y tai hynny. Dyna gefndir llyfr Rebekah Jones am goginio Neuadd Trawsgoed ym Maldwyn, a ysgrifennwyd yn ei llaw ei hun ym 1741.[8] Cynhwysa hwn rysait ar gyfer ‘artechoack pie’ ac ynddo ‘artichoke hearts, dates and raisins, seasoned with vinegar and sack, ginger and sugar….’. Gallwn gasglu o hyn bod sunsur yn gyffredin mewn coginio ymhlith y dosbarthiadau uwch yng Nghymru’r cyfnod, fel yn Lloegr, a’i bod o bosib yn dechrau dod yn fwy fforddiadwy i ddosbarthiadau is hefyd.

Mae tystiolaeth ieithyddol o blaid y dybiaeth honno. Y cryfaf yw’r enw a roddid i’r planhigyn a elwir yn Saesneg ‘cheese-wort’; erbyn 1722, ‘sinsir y gors’ oedd hwn yn Gymraeg, neu’r ‘boethwraidd’. At hynny, ceir y cyfeiriad cyntaf yn y Gymraeg at ‘fara sinsirog’ mewn geiriadur a gyhoeddwyd ym 1773. Tua’r adeg hyn yr oedd gingerbread yn mynd yn gyffredinbeth yn Lloegr ac yn ei threfedigaeth americanaidd, oherwydd y gostyngiad sylweddol ym mhris siwgr. Gallwn gasglu felly mai o gylch y cyfnod hwn, man hwyraf, yr aeth blas sunsur yn rhywbeth yr oedd cyfran go dda o boblogaeth Cymru yn gyfarwydd ag ef. Roedd hynny’n wir i’r fath raddau bod ‘hen shinshir’ erbyn dechrau’r 20fed ganrif yn ymadrodd llafar a ddefnyddwyd yn ardal Bangor am ddyn â thymer yn perthyn iddo; aeth sunsur yn ddihareb.

Ac ym maes y ryseitiau traddodiadol, llawr gwlad a gasglwyd gan Minwel Tibbot ac a gyfeirir atynt mewn gweithiau niferus y cier y dystiolaeth gyfoethocaf o hyn. Mae galw am sunsur mewn nifer o rysitiau Cymraeg, yn enwedig am wahanol deisennau, ond hefyd mewn seigiau mwy egsotig yr olwg i’n llygaid ni. Dyna i chi er enghraifft ‘maidd yr iâr’, a baratoid gydag bara a drochid mewn cymysgedd o laeth, wyau, sunsur, nytmeg a siwgr. Pan fydd y bara wedi gwlychu gan y cymysgedd, dyma roi’r cwbl i’r ffwrn, a’i fwyta pan fydd wedi coginio.

Roedd defnydd hir a sefydlog o sunsur felly yn hanes bwyd Cymru – a’r cynhwysyn yn un mor gyffredin nes i’r gair gael ei ddefnyddio yn drosiadol ym myd planhigion ac am bobl. Dyma ddechrau miniogi ein dealltwriaeth o’r cysyniad o fwyd hanesyddol Cymru, ac yn sgil hynny o’i diwylliant bwyd. Anodd byddai dadlau yng ngoleuni’r braslun uchod nad oes lle i sbeisys mewn trafodaeth o fwydydd hanesyddol Cymru, ac yn sgil hynny mewn unrhyw ddiffiniad synhwyrol o’n diwylliant bwyd. Does dim yn ddadleuol am hyn, wrth gwrs; ystyrir te yn rhan anhepgor o ddiwylliant bwyd Lloegr, a sinamwn yn greiddiol i ddiwylliant bwyd nifer o wledydd Llychlyn a’r Almaen – y ddau gynhwysyn yn estron i’r gwledydd dan sylw o ran eu tarddiad. Mae hanes sunsur yng Nghymru yn arddangos hefyd un o’r ffyrdd niferus y mae bwyd yn rhan o ddiwylliant y wlad yn ei grynswth – ond pwynt ar gyfer achlysur arall bydd hwnnw!

Cyfeiriadaeth ddethol

S. Minwel Tibbott, Welsh fare (Cowbridge: National Museum of Wales, 1976)

Bobby Freeman, First catch your peacock (Talybont: y Lolfa, 1980)

R. Elwyn Hughes, Dysgl Bren a Dysgl Arian: nodiadau ar hanes bwyd yng Nghymru (Talybont: Y Lolfa, 2003)

Joan Thirsk, Food in Early Modern England (London: Continuum, 2006)

Ed. Helen Fulton, Urban Culture in Medieval Wales (Cardiff: University of Wales press, 2012)

http://www.gutorglyn.net/gutoswales/gwledd-bwyd-sbeisys.php


[1] Dyfynnir yn Geiriadur Prifysgol Cymru dan sbeis.

[2] Thirsk, tud.6

[3] ibid, tud.10

[4] Ed Fulton, tud. 37

[5] http://www.gutorglyn.net/gutoswales/gwledd-bwyd-sbeisys.php

[6] Dyfynnir yn http://www.gutorglyn.net/gutoswales/gwledd-bwyd-sbeisys.php

[7] Thirsk, 54

[8] Freeman, 290

One reply on “9. Sbeis”

Comments are closed.