4. Y Tai Mawrion (rhan 2)

Yn yr ysgrif diwethaf yn y gyfres, dechreuon drafod yr hyn gallwn ddysgu am fwyd y Cymry yn y cyfnod rhwng 1550 a 1750 wrth y tai mawrion. Dyma dwrio’n ddyfnach i ddylanwad yr ystadau hyn ar fwyd y gymdeithas ehangach. Bu lle i nodi presenoldeb gerddi hyn, parciau, perllannau, pyllau dwr, gerddi llysiau muriog a chytiau gwenyn mewn ystadau yn Sir Gâr yn y cyfnod, fel prawf digamsyniol bod y drefn borthiannol ynddynt yn gyffelyb i ystadau tebyg yn Lloegr a bod perchnogion yr ystadau hyn yn gwario’u harian er mwyn bwyta’n dda. Pa gasgliadau ehangach gellir tynnu o hyn felly?

Roedd yr holl ystadau hyn yn eiddo i Gymry – ac yn amlach na heb, hen deuloedd Cymreig. A doedd Sir Gar wledig ddim yn eithriad yn hyn o beth; er y daeth ambell i ystâd i feddiant bonedd a man-bonedd o rannau eraill o Brydain trwy briodas neu drwy’r farchnad, roedd cyfran sylweddol o ystadau Cymru trwy gydol y cyfnod yn perthyn i deuluoedd Cymreig a Chymraeg. Dyma wedi’r cwbl oedd cyfnod William Salesbury a Humphrey Llwyd, yna Edward Lhuyd a Morrisiaid Môn.  Ac er bod cysylltiadau gydag theuluoedd mawr Lloegr yn cynyddu, gallwn gymryd yn ganiataol y byddai mwyafrif o aelodau’r teuluoedd hyn o reidrwydd, os nad pob tro o’u gwirfodd, yn medru’r Gymraeg.

Mae Hugh Myddelton (1560-1631) yn enghraifft da o aelod o’r grŵp cymdeithasol mewn sylw.[1] Trwy briodas daeth yn aelod o hen deulu’r Salusbury, a fuodd yn berchnogion ystâd Lleweni ger Dinbych er 1344. Roedd yn bedwerydd mab i’w dad, a oedd yn aelod seneddol ar Ddinbych, ac ym 1617 gwnaeth elw mawr o’i fuddsoddiad yng ngwaith mwyngloddio yng Ngheredigion (Cwmerfyn a Chwmsymlog). Fe’i coffair yn bennaf fodd bynnag yn Llundain am ei waith ar yr afonydd yno, a threuliodd cryn dipyn o amser yno hefyd fel aelod seneddol Dinbych rhwng 1603 ac 1628. Roedd ganddo gartref yn Cheapside yn ogystal ag yn Sir Ddinbych. Er nad oes tystiolaeth iddo ymddiddori mewn diwylliant Cymraeg, bu ei frawd, Richard Middleton yn hael ei gefnogaeth ariannol i gyhoeddi fersiwn rhatach a chludadwy o’r Beibl yn Gymraeg a gweithiau defosiynol. Gwelir felly iddo yn ei fywyd o flwyddyn i flwyddyn gymysgu â bydoedd gwledig Cymraeg, trefol ‘Cymreig’ a dinesig Saesneg Lloegr yn gwbl naturiol.

Pwysigrwydd hyn oll yw nad oedd y Salusburys na’r Myddeltons yn eithriadol yn hyn o beth. Vaughaniaid Gellir Aur, Wynniaid Gwydir a Conwy, Morgans Tredegar, Philippiaid Tredegar – roeddent oll yn deuluoedd a gadwodd mewn gwahanol ffyrdd un droed yng Nghymru a’i phethau a throed arall yn Llundain ar hyd y canrifoedd. Roedd y llwybr i gyfoeth a llwyddiant – trwy’r fyddin, y senedd, masnach a mwy yn agored i lawer o ddynion y teuluoedd hyn; ac fe gymerodd llawer ohonynt y llwybrau hynny a thrwy hynny dod i gysylltiad gyda chylchoedd ffasiynol Lloegr a thu hwnt. Byddai unrhyw haeriad na chaent eu dylanwadu gan yr hyn a welent, a glywent, a brofent ac a fwytent yn Llundain (a mannau eraill) yn mynd yn gwbl groes i graen pob cofnod sydd gennym o lif hanes Cymru yn y cyfnod. Ac wrth iddynt â’u hosgordd ddod â’r dylanwadau hynny yn ôl i’w hystadau Cymreig a derbyn ymwelwyr lleol o’r teuluoedd lled-foneddig di-ri fyddai’n mynd â dod wrth i’w ffortiwn godi a disgyn, byddai’r ffasiynau newydd yn araf deg yn cael eu pasio ymlaen i rannau eraill o’r gymdeithas Gymreig.

Da o beth fyddai gallu olrhain hyn trwy lyfrau archebion a chofnodion ceginau rhai o’r teuluoedd hyn yn y cyfnod. Mae tystiolaeth y sawl a wnaeth hynny (Bobby Freeman, J Elwyn Hughes, Minwel Tibbot) gan chwilio’n daer am ryseitiau unigryw Cymreig a Chymraeg yn unedig yn eu tystiolaeth mai ychydig iawn o ryseitiau unigryw Cymreig a geir yn y ryseitiau; yn hytrach, ychydig iawn sydd i wahaniaethu cynnwys y llyfrau ryseitiau hyn wrth gynnwys archifau tai mawr Lloegr. Mae hynny, wrth gwrs, yn adrodd cyfrolau; awgryma’n gryf bod ceginau ystadau mawr Cymru yn gwneud eu gorau i gadw i fyny gyda ffasiynau bwyd cyfoethogion Lloegr. Os felly, rhaid bod y cogyddion a gweision y gegin a’r ardd yn y tai hyn hefyd yn dysgu sut i dyfu a thrin y cynnyrch newydd y byddai ffasiwn yn eu dyrchafu. Fel arall, rhaid credu un o dri gosodiad abswrdaidd:

  • mai gweithiau dyheadol oedd y llyfrau ryseitiau hyn yn unig, yn arddangos dymuniad y meistri i fwyta fel y gwnâi eu cymheiriaid dros Glawdd Offa yn unig
  • mai mewnforio eu ffrwythau a’u llysiau o ffermydd a gerddi yn Lloegr y gwnâi’r tai Cymreig hyn

Ni raid mynd i’r afael gyda’r gosodiadau hyn. Boed i’r darllenydd dwrio i’w ddarbwyllo ei hun os oes amheuaeth yn ei feddwl. Ond mae un wrth-ddadl fwy arwyddocaol y gellir ei chodi, sef mai ychydig iawn o effaith cai patrymau bwyd y tai mawrion hyn ar fwyd trwch y boblogaeth. Gellir derbyn yn hawdd, fe ddichon, y byddai’r sawl a weithiai i dyfu, paratoi a gweini’r bwydydd danteithiol yn y tai mawrion yn cymryd diddordeb yn y bwydydd hynny – a’u blasu o dro i dro wrth baratoi, efallai! Ond a oes rheswm i gredu na fyddent yn efelychu hyn yn eu ceginau a’u gerddi eu hunain?

Dau brif reswm i gredu hyn a welwn i: sef yn gyntaf bod y gwahaniaeth diwylliannol a chymdeithasol rhwng y gweision uniaith Gymraeg (yn y rhan fwyaf o Gymru yr oes dan sylw) mor sylweddol fel na fyddai ganddynt ddiddordeb mewn efelychu eu meistri. Mae hyn yn osodiad rhesymol, a gwelir tystiolaeth o hyn mewn cymdeithasau cyfoes a hanesyddol yn fyd-eang. Yr ail reswm fyddai’r posibilrwydd nad oedd modd i’r werin geisio efelychu’r meistri am resymau economaidd; roeddent yn syml iawn yn rhy dlawd.


[1]Y Bywgraffiadur Cymreig yn https://bywgraffiadur.cymru/ a gwelir y mynediad i deulu Myddelton

Cyfeiriadaeth ddethol

Joan Thirsk, Food in Early Modern England (London: Continuum, 2006)

Penny David, Rooted in History (Llanbedr Pont Steffan: Fern Press, 2017)

S. Minwel Tibbott, Welsh fare (Cowbridge: National Museum of Wales, 1976)

Bobby Freeman, First catch your peacock (Talybont: y Lolfa, 1980)

R. Elwyn Hughes, Dysgl Bren a Dysgl Arian: nodiadau ar hanes bwyd yng Nghymru (Talybont: y Lolfa, 2003)

One reply on “4. Y Tai Mawrion (rhan 2)”

Comments are closed.