Yn yr ysgrif diwethaf edrychon ni ar fwyd y tai mawrion yng Nghymru, a’r tystiolaeth cryf eu bod yn agored i ddylanwadau allanol, ac yn dilyn ffasiynau Llundain (ac Ewrop). Codir y cwestiwn a gâi hyn effaith ar fwyd gweddill y boblogaeth…
Ond mae un wrth-ddadl fwy arwyddocaol y gellir ei chodi, sef mai ychydig iawn o effaith y cai patrymau bwyd y tai mawrion hyn ar fwyd trwch y boblogaeth. Gellir derbyn yn hawdd, fe ddichon, y byddai’r sawl a weithiai i dyfu, paratoi a gweini’r bwydydd danteithiol yn y tai mawrion yn cymryd diddordeb yn y bwydydd hynny – a’u blasu o dro i dro wrth baratoi, efallai! Ond a oes rheswm i gredu na fyddent yn efelychu hyn yn eu ceginau a’u gerddi eu hunain yng Nghymru, yn wahanol i Loegr neu gymdeithasau’r cyfandir cyfagos?
Dau brif reswm i gredu hyn a welwn i: sef yn gyntaf bod y gwahaniaeth diwylliannol a chymdeithasol rhwng y gweision uniaith Gymraeg (yn y rhan fwyaf o Gymru yr oes dan sylw) mor sylweddol fel na fyddai ganddynt ddiddordeb mewn efelychu eu meistri. Mae hyn yn osodiad rhesymol, a gwelir tystiolaeth o rwygiadau fel hyn mewn cymdeithasau cyfoes a hanesyddol yn fyd-eang. Yr ail reswm yw’r posibilrwydd nad oedd modd i’r werin geisio efelychu’r meistri am resymau economaidd; roeddent yn syml iawn yn rhy dlawd.
Dim ond dechrau cylchynu’r pwnc y gallwn yma; byddwn yn dychwelyd dro ar ôl tro iddo wrth fynd yn ein blaenau trwy’r gyfres. Dechreuwn trwy ystyried y cwestiwn cyntaf: a oedd yna fwlch cymdeithasegol sylweddol rhwng y bonedd a’r werin, fel na fyddai’r ail grŵp yn dymuno efelychu’r cyntaf?
Roedd patrwm cymdeithasol Cymru’r cyfnod yn wahanol i un Lloegr, yr Iseldiroedd a’r Almaen, yn y ffaith bod y dosbarth masnachol yn wan ac yn gymharol fach. Roedd ar ei gryfaf yn neau Sir Benfro a Sir Ddinbych (yn enwedig o amgylch tre lwyddiannus Wrecsam), ac roedd yn bresennol i raddau llai mewn trefi fel Caerdydd a Chaerfyrddin.[1] Un o ganlyniadau hyn oedd cymdeithas a nodweddid gan raniad gweddol amlwg rhwng y bonedd a’r tirfeddianwyr mawr â’u cysylltiadau rhyngwladol, ac yna gwerin a oedd ar y cyfan yn wledig ei natur. Roedd dwy brif garfan yn perthyn i’r ‘werin Gymraeg’ hon; tyddynwyr tlotach, a ffermwyr a oedd at ei gilydd yn fwy sefydlog o beth ffordd. Yn ôl cofnodion treth aelwyd 1670, 24% o boblogaeth Morgannwg a berthynai i’r dosbarth cyntaf hwn (y tyddynwyr tlawd) tra bod y ganran yn cyrraedd 46% yn Sir Benfro (a’r siroedd eraill rhwng y ddau begwn hwn).[2]
Serch hyn, a serch cof gwlad o anghydfod cymdeithasol, ychydig iawn yn unig ohono a welir yn ystod y cyfnod, y tu hwnt i’r Rhyfel Cartref a’r rhwygiadau a ddatblygodd yn raddol trwy dwf anghydffurfiaeth yn y wlad, hynny yw. Perthyn y terfysgoedd enwog – Merched Beca a’r Siartwyr, er enghraifft – i gyfnod diweddarach, pan oedd y wlad yn brysur ddiwydiannu a newidiadau ehangach ar droed. Dilynwn drywydd tri enghraifft penodol i weld fel yr oedd gwerin Cymru yn ystod y cyfnod hwn yn cyfranogi o’r un byd economaidd â bonedd y tai mawrion: y porthmyn, yr ystâd a meithrinfeydd coed.
Er mai’r bonedd oedd yn mwynhau cysylltiadau rhyngwladol, nid nhw yn unig a elwai o’r llewyrch economaidd a ddaeth i Brydain o gyfnod Elisabeth ymlaen. Cododd ffermwyr gwledig Eryri ffermdai carreg sylweddol iddynt eu hunain, a nifer da ohonynt yn dal i sefyll hyd heddiw.[3] Ffynhonnell eu cyfoeth oedd da byw. Roedd menyn a chaws yn gynhaliaeth dda, a gallent ddarparu bwyd da trwy fisoedd y gaeaf, ac o’r cyfnod hwn ymlaen y dechreuodd gynnyrch y llaethdy ennill ei blwyf yn y farchnad Lundeinig. Roedd rhagfarn hirhoedlog wedi bodoli yn Lloegr yn erbyn cynnyrch llaeth, ond yn raddol newidiodd hyn o oes Elisabeth ymlaen.[4] Yn bwysicach na hyn fodd bynnag oedd y farchnad eidion: roedd arian da i’w gael trwy werthu eidion Cymreig i’w fwyta ar fordydd bonedd Lloegr. Mor gynnar â’r 1540au, ceir cofnod o borthmyn – Rhys ap Cynfrig a Rhys ap Llywelyn – yn tyfu’n gyfoethog trwy fynd â’u gwartheg i farchnadoedd Lloegr. Ac roedd nifer o’r dosbarth hwn yn uniaith Gymraeg.[5] Os nad oedd tyddynwyr yn gweithio’n uniongyrchol i deuluoedd y bonedd, y dosbarth hwn o ffermwyr fyddai eu cyfle gorau i ennill incwm, ran amlaf. Mewn gair: roedd trawsdoriad sylweddol o boblogaeth wledig Cymru yn ystod y cyfnod hwn nid yn unig yn elwa o gysylltiadau masnachol gyda’r byd allanol, ac yn enwedig Lloegr, ond hefyd yn dod i gysylltiad uniongyrchol gydag ef.
Yn ail, felly, yr ystadau. Asgwrn cefn rhannau helaeth o economi wledig Cymru oedd y rhain, er gwell ac er gwaeth. Siapient y dirwedd o’u cwmpas, a’u dylanwad pensaernïol yn cynnwys ffermydd a stablau, porthdai, bythynnod, eglwysi, capeli, melinau, a phob math o weithfeydd diwydiannol. Yn yr un modd, mae eu dylanwad i’w weld ar y tirwedd yng nghynllun a threfn parciau, gerddi, coedlannau, caeau, coed, llynnoedd a phontydd. Roedd eu meistri ran amlaf yn tarddu o hen deuluoedd Cymreig, a weithiau o deuluoedd o rannau eraill o wledydd Prydain. Ond yn allweddol i’r cwestiwn hwn, o blith y boblogaeth leol y cyflogent eu gweithwyr: yn arddwyr, cogyddion, dynion coets, gweision fferm, glanhawyr a mwy. Ac un o nodweddion mwy syfrdanol y cyfnod, o ystyried gwrthryfel Glyndwr ganrif cyn ei gychwyn a’r terfysgoedd a dadlau a’i ddilynodd yn y 19fed ganrif, oedd y diffyg gwrthdaro rhwng y meistri hyn a’u gweision. Nid yn unig na fu gwrthdaro gwaedlyd, ond yn fwy na hynny, na cheir arlliw o hynny yn llenyddiaeth y cyfnod, naill ai o du’r bonedd a’u ffrindiau Seisnig ond hefyd yn ysgrifennu’r Cymry hynny a aeth i lenydda. Roedd rhai o’r pregethwyr anghydffurfiol a gododd tua diwedd y cyfnod – dynion megis Daniel Rowland a William Williams – yn dod o’r dosbarth is hwn, ac roedd ganddynt gymhelliad ychwanegol (yn eu hymneilltuaeth) i gwyno am y tirfeddianwyr Anglicanaidd yn eu gweithiau a’u pregethau. Ond ni wnaethant, ac mae eu tawelwch yn huawdl.
Yn drydydd, ystyriwn y meithrinfeydd planhigion a choed a amlhaodd tua diwedd ein cyfnod. [6] Gyda’r newid mewn ffasiwn i greu dirweddau rhamantaidd a pharcdiroedd ar yr ystadau yn ystod yr 18fed ganrif, daeth galw mawr am feithrinfeydd coed. Gwyddom er enghraifft fod Arglwydd Talbot, Plas Hensol, wedi sefydlu planhigfeydd coed sylweddol o 1750 ymlaen; bod meistr Mr Johnes, Llangennech wedi plannu 460,000 o goed mewn un flwyddyn ar ei ystâd, a bod yr hanner canrif hwn yn frith o blannu. Erbyn 1800 roedd 6 meithrinfa goed yn Sir Gaerfyrddin wledig yn unig yn amrywio o 5 i 18 erw o faint, a thyddynwyr di-ri eraill yn tyfu coed ar eu tir i’w gwerthu i’r ystadau. Dyma godi’n golwg ychydig y tu hwnt i’n cyfnod ni, ond wrth wneud cawn enghraifft (anghofiedig) o natur economi wledig Cymru ein cyfnod, a mewnolwg i’r clymau cymdeithasol-economaidd rhwng y dosbarthiadau a fodolai: roedd galw’r dosbarth uchaf am gynnyrch o fath penodol yn creu marchnad y byddai’r dosbarthiadau is yn elwa arni.
Dim ond crafu’r wyneb mae’r enghreifftiau hyn, ond dangosant o onglau gwahanol y ffaith sylfaenol; nad oes dim tystiolaeth o anghydfod cymdeithasol yn y cyfnod hyn rhwng y dosbarthiadau is a’u meistri ond yn hytrach bod y dosbarthiadau hyn ynghlwm yn economaidd, ac yn rhannu rhai o’r un dylanwadau. Mae pob rheswm i gredu felly bod y dosbarthiadau is, yng Nghymru fel mewn mannau eraill, yn agored i efelychu arferion bwyd eu cymdogion goludog. (Noder: nid cymeradwyo trefn gymdeithasol yw ei disgrifio!)
Yn yr ysgrif nesa, cawn ystyried a oedd sefyllfa economaidd trwch y boblogaeth yn caniatáu iddynt geisio dynwared y bonedd – a thrwy wneud, cawn ddechrau lenwi’r darlun o natur amrywiol a chymysg bwyd y Cymry….
[1] Gower, J., The Story of Wales, tud.167
[2] South Wales Record Society, The Glamorgan Hearth Tax Assessment of 1670
[3] Suggett, Discovering the historic houses of Snowdonia, tud. 85 ac 111
[4] Thirsk, Food in Early Modern England, tud. 270
[5] https://www.snowdonia.gov.wales/addysg-education/history-of-snowdonia/the-drovers-of-snowdonia
[6] Davies, Agricultural Survey of South Wales, tud 19-39
Cyfeiriadaeth ddethol
Joan Thirsk, Food in Early Modern England (London: Continuum, 2006)
Penny David, Rooted in History (Llanbedr Pont Steffan: Fern Press, 2017)
Walter Davies, Agricultural Survey of South Wales (1814)
Richard Suggett, Discovering the historic houses of Snowdonia, (RCAHMW: 2014)
Ed. Elizabeth Parkinson, The Glamorgan Hearth Tax Assessment of 1670, (Cardiff: South Wales Record Society, 1994)
Comments are closed.