Ar ei fol y bydd byddin yn martsio; felly hefyd gwlad. Mae bwyd yn hanfodol i ddyfodol pob gwareiddiad, ac yn arwydd da o iechyd y gwareiddiad hwnnw. A dyw ein perthynas gyda bwyd yma yng Nghymru 2020 ddim yn iach: rydym yn dioddef o glefydau diri yn deillio o’n diet; mae gan rai ohonom mwy o ddewis mewn bwyd na’r un o’n cyndeidiau, eraill yn ddibynnol ar fanciau bwyd elusennol. Mae ein ffermwyr yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd, tra’n bod yn mewnforio cyfran helaeth o’n bwyd. Ychydig o’n ffrwythau a llysiau a gynhyrchwn yng Nghymru; mae ein hafonydd a’n moroedd yn fwy difywyd nag y buont erioed; ac mae’r tir yn nychu.
Pam – pan fo’r anghenion cyfredol mor llethol – ymroi i ymchwilio, dadansoddi a thrafod hanes bwyd Cymru? Yn fras, am ein bod fel bodau dynol yn meddwl mewn naratif: trwy batrwm stori y byddwn yn dadansoddi’r byd, yn storio argraffiadau yn ein cof, ac yn gwneud penderfyniadau. A hyd y gwelaf i, dydyn ni Gymry ddim wedi cyfranogi mewn naratif cyffredin am ein bwyd. Ychydig iawn o syniad sydd gennym o’n hanes porthiannol, ac ychydig o siawns felly i wneud synnwyr o’r cyfyng-gyngor presennol gyda’r adnoddau sydd oddi fewn i’n diwylliant ein hun. Mewn geiriau eraill, dwi’n gobeithio y bydd amlygu nifer o agweddau o hanes ein bwyd yn fodd i ddarparu hanner cyntaf naratif penagored i’r sawl all gyfrannu at barhad llesiannol i’r naratif hwnnw, sef: diwylliant bwyd cyfoethog a angorir mewn economi bwyd lleol a chyfiawn.
Dyma mewn gwirionedd a wneuthum gydag Afalau Cymru (ac hefyd gyda Welsh Food Stories). Sbardunwyd y cyfan pan sylweddolais bod naratif yn llyfrau hanes Cymru ac yn y llenyddiaeth afalaidd (Loegr-ganolog) fel ei gilydd i’r perwyl nad oedd i bob pwrpas draddodiad o dyfu ffrwythau yng Nghymru. Roedd y canfyddiad hwnnw bron yn gwbl ddi-sail, ond yn ddealladwy hefyd: doedd neb wedi dod â’r naratif hwnnw ynghyd a’i roi ar glawr. Cofiaf yn dda gofyn i John Davies, Bwlch-llan am hanes afalau yng Nghymru, ac a allai fy rhoi ar ben ffordd gyda fy ymchwil; roedd yn ei eiriau ei hun yn weddol ddi-glem, ac ni allai fy helpu. Y dirgelwch mwy oedd pam bod yr atgof o’r hyn a fu hefyd wedi diflannu o’n hymwybyddiaeth cenedlaethol, os nad o gof cyfran sylweddol o’r to hyn (a fagwyd cyn cc. 1950).
Dyma felly fy mwriad yn y gornel fach hon o’r we: amlinellu mewn cyfres o ysgrifau a phytiau rai o gynhwysion allweddol hanes bwyd Cymru. Dwi’n rhagweld y byddwn yn trafod:
- Y Tai Mawrion (yma, yma ac yma)
- Bwyd y werin (yma)
- Bwydydd y bröydd (yma ac yma)
- Pam na fu bwyd Cymru?
- Bwyd ein llên
- Myth y dirwedd ddigyfnewid
- Hanes gwahanol agweddau ar fwyd, gan gynnwys:
- eplesu
- sbeis (yma)
- y fyrtwydden
- bwydydd gwyllt
- yr afal (eto)
- diodydd anghofiedig
- agroforestry/ amaethgoedwigaeth avant l’heure
Byddai’n dda cael eich cwmni ar y daith – ac os hoffech gyhoeddi peth o’r deunydd yma mewn cylchgrawn yr ydych yn ei olygu neu ar wefan arall, rhowch wybod trwy gysylltu â carwyn@gravesfamily.org.uk
Llyfryddiaeth ddethol
Joan Thirsk, Food in Early Modern England (London: Continuum, 2006)
Penny David, Rooted in History (Llanbedr Pont Steffan: Fern Press, 2017)
S. Minwel Tibbott, Welsh fare (Cowbridge: National Museum of Wales, 1976)
Bobby Freeman, First catch your peacock (Talybont: y Lolfa, 1980)
R. Elwyn Hughes, Dysgl Bren a Dysgl Arian: nodiadau ar hanes bwyd yng Nghymru (Talybont: y Lolfa, 2003)
Walter Davies, Agricultural Survey of South Wales (1814)
David Thomas, Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru (Amwythig, 1750)
Defoe, D., ‘A tour thro’ the whole island of Great Britain, divided into circuits or journies’ (1727)
Ardderchog!!!