Wrth geisio hyrwyddo ‘Welsh Food Stories’, sy’n cael ei gyhoeddi o’r diwedd yr wythnos hon, un sylw dwi wedi ei wneud sawl tro yn ddiweddar, gyda thinc ymddiheurol yn fy llais, yw fy mod wedi ceisio ysgrifennu llyfr Cymraeg yn Saesneg. Ydw i’n gallu amddiffyn honiad o’r fath? A oes angen ei amddiffyn? Sut beth fyddai llyfr Cymraeg yn Saesneg, tapini?
Dechreuwn gyda’r olaf o’r cwestiynau hynny. O dan y wyneb yn y syniad o lyfr Cymraeg yn yr iaith Saesneg yw’r syniad bod yna ryw nodwedd yn perthyn i lyfrau Cymraeg, at ei gilydd, sy’n eu cysylltu yn fwy felly na dim ond yr iaith yr ysgrifennir hwy ynddi. Dwi’n meddwl, ar ôl treulio blynyddoedd bellach yn ymgyfarwyddo gyda llenyddiaeth Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Lladin, ei bod yn anodd peidio â dod i’r casgliad hwnnw. Nid hanfodaeth mo hon, dim ond theori cyfieithu. Mae bob gair ym mhob iaith yn dod gydag ef llu o ystyron ac ymadroddion cysylltiedig, ac er bod y mwyafrif o’r rhain yn gorgyffwrdd rhwng ieithoedd y rhan fwyaf o’r amser, dyw’r gyfatebiaeth braidd byth yn un-i-un.
Meddylier am ymadrodd bwyd; caws a ‘cheese’ er enghraifft. Mae’r Gymraeg yn tynnu tref Caerffili i’r darlun wrth ei gwt, ac hefyd ‘caws bobi’ ac wrth gwrs caws llyffant, sydd yn beth gwahanol iawn. ‘Toad’ ddeuai â’r olaf i mewn yn Saesneg, a byddai gwenu i’r camera efallai ychydig yn agosach i’r meddwl yma nag yn achos y Gymraeg. Felly hefyd Double Gloucester, cheesecake, a bod yn ddig (‘cheesed off’, onide?). Go brin bod y gyfatebiaeth rhwng ieithoedd yn un-i-un, boed ni’n sôn am wenoliaid neu am winoedd.
Mae pob llyfr Cymraeg o reidrwydd yn dod â’r cyfystyron a’r cyfeiriadau Cymraeg hyn i mewn i’r naratif gyda nhw, a gwneud rhywbeth felly y byddai llyfr Cymraeg am fwyd; a pho ddwysa’r gyfeiriadaeth at hanes, diwylliant, daearyddiaeth a llên Cymru mewn llyfr am fwyd, po fwya y deuai’r cyfystyron hyn i mewn. Ail-greu hyn yn yr iaith fain gorau gellid y byddai llyfr Cymraeg yn Saesneg am fwyd, am wn i.
Oes angen amddiffyn yr ymgais i wneud hyn, os llwyddo a wnes? Ar un olwg oes, a hynny am y dylid bod wedi cyflwyno llyfr fel Welsh Food Stories, sy’n cyflwyno cyfoeth ac amrywiaeth bwydydd Cymru a’u hanes i’r cyhoedd mewn un lle am y tro cyntaf, yn y Gymraeg yn gyntaf. Os hoffai’r darllenydd ddarganfod hanesion bwydydd traddodiadol Cymru a hynny mewn un gyfrol, ni chaiff wneud yn Gymraeg. Mae trysorau di-ri yn Amser Te Tibbot; ond mae hwnnw’n fyr ar gyd-destun y bwydydd, ac allan o brint ers hanner canrif. Ceir trafodaeth hanesyddol yn Dysgl Bren a Dysgl Arian, ond er cyfoeth y ffynonellau yn y gyfrol academaidd honno, unllygeidiog yw ei golwg ar y maes. Fel dwi wedi esbonio i’r darllenydd mewn sawl ffordd trwy gydol Welsh Food Stories, Cymraeg yw priod iaith llawer iawn o’r hyn a drafodir; a dylid bod felly wedi trafod y pethau yn Gymraeg gan gyfrannu wrth wneud i ddisgwrs yr iaith am agwedd greiddiol o ddiwylliant y wlad.
Ond yna, hwyrach nad oedd angen y gyfrol yn Gymraeg? Roedd hi’n deimlad gen i wrth roi pen ar bapur a chychwyn ar y gwaith yn 2018 bod llawer iawn o’r hyn roeddwn am ei holrhain eisoes yn adnabyddus o fewn y diwylliant Cymraeg. Bod lle canolog bwyd yn ein diwylliant yn hanesyddol yn amlwg i bobl lle mae te capel, ryseit Mamgu ar gyfer cawl a’r atgof o gwrw bach neu teisen lap yn dal i fod yno ar lawr gwlad. Bod y syniad o amrywiaeth o fewn ein bwyd môr, o’r ansawdd y gall ein tir gynhyrchu a’r awydd i ddathlu hynny fel peth naturiol ‘Cymreig’ am ei fod yn deillio o Gymru, yno yn naturiol o fewn diwylliant y Gymraeg mewn ffordd nad ydy ymhlith y Cymry di-Gymraeg, heb son am ein cymdogion boed yn Iwerddon, Ffrainc neu Loegr.
Dwi’n meddwl bellach fy mod ond yn hanner cywir ynghylch hyn; bod yr hyn a dybiais am y Cymry Cymraeg yn wir yn bennaf am y cenedlaethau hŷn yn eu plith, a bod bwydydd Cymru at ei gilydd yn fwy a mwy estron po ieuengaf y gynulleidfa. Ond er mwyn rhannu’r stori gyda nhw, efalllai mai ysgrifennu llyfr Saesneg am y peth fyddai’r cam cynta gorau i’w gymryd ta beth; mai yn sgil hynny y gellid dadlau i’r to sy’n codi, bod angen llyfr newydd am fwydydd cynhenid Cymry, ac mai ni sy wrthi’n ysgrifennu’r deunydd ar lwyfan hanes.