Undonog oedd bwyd y Cymry…

Yn ‘Dysgl bren a dysgl arian’, un o’r unig gyfrolau cynhwysfawr yn y Gymraeg sy’n ymdrin â maes hanes bwyd y Cymry, mae R Elwyn Hughes yn creu darlun digon clir o ansawdd diet y werin Gymreig. Roedd ‘ceidwadaeth gysefin y Cymry’ (tud. 274), a’u hamharodrwydd syfrdanol i ddefnyddio’r adnoddau naturiol o’u cwmpas (gw. pennod 5, ‘Bwyta’n wyllt’) yn golygu na ellir ‘ond sylwi cyn lleied  ddewis mewn gwirionedd a fu gennym erioed yn natur ein lluniaeth’. Undonog, diflas a bron anfaethlon yw’r diet Cymraeg fel y mae R Elwyn yn ei bortreadu, a hynny o’r oesoedd canol hyd yr oes fodern. Cymera’n ganiataol bod eu diffyg ymborth gwyrdd yn golygu bod sgyrfi’n rhemp (tud.93-133), ac mai byw ar fara, ceirch a chynnyrch llaeth, gan gadw at hen ryseitiau syml a diddordeb oedd patrwm y Cymry. Ac mae lleisiau eraill ar hyd y canrifoedd wedi ategu’r darlun cyffredinol hwn. Y mwyaf enwog o blith y rhain o bosib yw’r hynaf hefyd, Gerallt Gymro, a ddywedodd, ‘y mae’r bobl yn byw ar eu preiddiau, ac ar geirch, llaeth, caws a menyn’. Yn fwy diweddar, cyfeiriodd y ‘Guardian’ at Gymru’r ugeinfed ganrif fel ‘gastronomic desert’.[1]

Ond methu ag argyhoeddi a wna’r ddadl, a hynny am ddau reswm pennaf.Yn gyntaf, fe wyddom fod y byd naturiol yng Nghymru yn doreithiog ei gynnyrch yn yr oesoedd a fu. Mae cofnodion o fae Ceredigion o heigiau o bysgod oedd tair milltir o hyd mor ddiweddar â dechrau’r 20fed ganrif – cofnodion credadwy am eu bod yn adlewyrchu rhai cyffelyb mewn rhannau eraill o Ogledd Ewrop yn y cyfnod cyn-fodern.[2] Yn yr un modd y diwydiant wystrys ym mro Gwyr; byddai pob cwch yn dod â 7-8000 o wystrys i’r lan yn ddyddiol ar ddechrau’r 18fed ganrif. Erbyn yr 1870au roedd y gyflenwad naturiol wedi eu disbyddu i’r fath raddau fel bod wystrys yn mynd yn fwyd drud o fewn cyrraedd y bonedd yn unig. Ac o ran cynnyrch y tir – madarch, anifeiliaid gwyllt, cnau, llysiau a ffrwythau gwyllt – mewn amgylchedd lle nad oedd chwynladdwyr a ffwngladdwyr modern, a lle roedd lefelau bioamrywiaeth yn ôl pob cofnod a phob mesuryn sydd o fewn ein gafael yn llawer uwch na heddiw (o leiaf i ffwrdd o’r ardaloedd hynny lle roedd diwydiant trwm), roedd amgylchfyd y Cymry lawn mor doreithiog ag unrhyw ran arall o Ogledd Ewrop (ac yn fwy felly mewn gwirionedd oherwydd amrywiaeth y dirwedd, a phresenoldeb y môr).

Ond a fyddai’r Cymry yn gwneud defnydd o’r cynnyrch toreithiog hyn? Mae sawl rheswm i feddwl y gwnaent. Yn gyntaf, noda Elwyn Hughes ei hun mai ‘cymharol brin yw’r cyfeiriadau [at sgyrfi, a achosid gan ddiffyg fitamin C] yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn’[3], a bod sgyrfi yn gyffredin yn dilyn prinder tatws yn yr Alban (1846), Lloegr ac Iwerddon (1847) – ond llawer llai yng Nghymru. Awgryma hyn oll bod deiet y Cymry yn fwy amrywiol, ac yn enwedig eu bod yn dibynnu’n llawer llai ar datws ar gyfer eu cymhorthiant o fitamin C. Dim ond dau achos posib sydd i hyn; eu bod yn bwyta mwy o lysiau (yr hyn mae Elwyn Hughes hefyd yn ei gael yn anodd i gredu), neu eu bod yn bwyta mwy o fwydydd gwyllt – neu’r ddau. Ymhellach yn ei gyfrol ei hun, mewn cyswllt gwahanol, rhydd ragor o dystiolaeth ddogfennol o arfer y Cymry o ddefnyddio bwyd gwyrdd gwyllt; eu ‘diodgriafol’ (tud. 216), defnydd pobl Llanrwst o’r efwr yn lle asparagws yn yr 19eg ganrif (tud.98), pobl cylch Llanofer yn bwyta danadl ifainc (p.255), a chofnod Iolo bod gwerin Bro Morgannwg yn defnyddio 19 math gwahanol, gan gynnwys samphir (tud 243.) Ac mae twrio cyflym yn dod â rhagor o enghreifftiau i’r fei; y dywediad traddodiadol bod pobl Port yn ‘hwrs a lladron a phobl cregyn duon’; yr arferion cyffredin a phrofedig o bysgota eog, sewin, mecryll yn eang, ac o hel cocos a chynaeafau gwymon; rysait a ddefnyddiai suran y coed o lyfr coginio o Nannau a Hengwrt yn 1796;[4] yr arferion cyffredin yn ymwneud â pherlysiau at ddibenion meddygol e.e. gan Feddygon Myddfai; a lliaws o gyfeiriadau pendant yn dyddio yn y mwyafrif o achosion o ddiwedd yr 19fed ganrif o ddefnyddio llus, blodau’r eithin, blodau’r ysgawen ac eraill mewn diodydd ac wrth goginio. Yn wyneb y dystiolaeth o bob cwr o’r wlad o gymaint o wahanol fathau o fwydydd gwyllt, anodd credu bod tabw yn erbyn eu defnyddio yn bodoli ymhlith y Cymry, a byddai angen rhywbeth o’r fath i esbonio pam na fyddent yn gwneud defnydd o’r doreth naturiol o’u cwmpas.

Yr ail reswm pam fod dadl Elwyn Hughes yn syrthio’n fyr o’r nod o safbwynt hanesyddol, yw am ei fod yn methu â chymryd natur dynol ar ffurf chwilfrydedd i ystyriaeth. Er mwyn gweld pam, rhaid cyflwyno Joan Thirsk i’r drafodaeth. Trueni na fu i Thirsk ag Elwyn Hughes (a oedd yn athro ym maes maetheg) drafod eu canfyddiadau gyda’i gilydd cyn iddynt farw yn ystod y degawd diwethaf ill dau. Hanesydd amaeth yn Lloegr oedd Joan Thirsk am dros drigain o flynyddoedd. Tua diwedd ei gyrfa, troes ei sylw at hanes bwyd yn Lloegr ac ysgrifennu stoncar o gyfrol, Food in Early Modern England, a weddnewidiodd y maes.

Dadl syml ond chwyldroadol Thirsk yw hyn: bod y bobl gyffredin, a oedd yn byw gyda’r uchelwyr, a oedd yn eu gweini, yn paratoi eu bwyd, yn gweithio yn eu gerddi ayyb, yn ymddiddori yn yr hyn yr oedd eu meistri yn ei fwyta. Nid yn unig hynny, ond byddent yn eu dynwared. Mewn gair, bod ffasiwn ym maes bwyd yn bodoli yn yr 1500au – ac yn yr 1600au, yr 1700au ayyb. Doedd gan werin Lloegr oes Elisabeth, ac oes Siôr a phob oes arall ddim diddordeb mewn bwyta bwyd diflas os gallent gael bwyd mwy diddorol. Roeddent yn chwilfrydig, ac felly byddai rhai ohonynt – digon i gael effaith ar y lleill – yn arbrofi. Trwy hynny, byddai dylanwadau newydd – ffyrdd newydd o goginio, bwydydd newydd i’w defnyddio, seigiau newydd i’w blasu – yn glanio ar blatiau ac yng ngenau’r werin bobl.

Dadl gryf yw hon, nid yn unig am ei bod yn cymryd fel cynsail iddi y ffaith bod natur dynol, at ei gilydd, yr un fath o oes i oes. Wrth gwrs y bu i’r Saeson, y Ffrancod, yr Iseldirwyr gymryd diddordeb yn yr hyn roedd eu meistri, a’u cymdogion, a nhw eu hunain yn bwyta! Nid chwyldro cyson mae Thirsk yn ei ddisgrifio, nac ychwaith diffyg absoliwt parhad; roedd rhwystrau economaidd, salwch y pridd mewn sawl man, yr hinsawdd a’r tywydd yn dal i gyfyngu ar opsiynau’r werin. Cyflwyna Thirsk storfa helaeth o dystiolaeth i gefnogi ei dadl. A allwn wneud yr un fath yn achos y Cymry?

Digon hawdd fyddai gwneud heb orfod twrio yn rhy ddwfn i’r archifau. Gwneith tri esiampl yr achos am y tro. Y cyntaf yw tato. Newydd-ddyfodiad yw’r tato, o’i gymharu gyda llawer o’n bwydydd traddodiadol eraill. Daeth o’r Amerig yn sgil y trefedigaethu cynnar yno, a dechrau lledu ymhlith gwerin Ewrop yn yr 17eg ganrif[5]. Mae Elwyn Hughes yn nodi y mabwysiedid y tato ar raddfa eang yng Nghymru erbyn 1742, ac mae cofnodion o stadau Morrisiaid Môn yn ail hanner y ganrif honno yn son am eu medelwyr yn cynnwys tato yn eu potes. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd y tato yn ffynhonnell egni pwysig i’r boblogaeth, a chododd llu o ffurf o’i ddefnyddio – cawl, tatws popty, wyau Sir Fôn, tatws llaeth ayyb. Felly chwilfrydedd, ac nid ‘ceidwadaeth gynhenid’ enillodd y dydd yn achos y tato.

Felly hefyd yn achos te; mewnforyn o wledydd lled-drofannol oedd te, ac roedd diodydd eraill, dengar eisoes ar gael i’r Cymry na fyddai’n rhaid iddynt brynu (o leia pobl y wlad) – cwrw bach, seidr mewn mannau, llaeth enwyn, meddeglyn a mwy. Diod i’r bonedd oedd te (a choffi) yn wreiddiol, ac roedd salonau te yn gweini ar grachach Llundain a Pharis ymhell cyn i’r ddiod ddod i enau gwerin Cymru. Ond erbyn canol y 19eg ganrif, roedd te wedi ennill ei blwyf ymhlith pob sector o’r boblogaeth ac ym mhob rhan o’r wlad.[6] Gymaint felly fel bod pryd syml wedi ei ddyfeisio yr oedd te yn brif gynhwysyn iddo, ‘siencyn te’, a oedd yn gyffredin ar draws y wlad erbyn diwedd yr 19fed ganrif. Felly hefyd yr arfer cyffredin o drochi’r cynhwysion mewn te cyn gwneud bara brith. Unwaith eto, arweiniai chwilfrydedd y bobl i arferion a danteithion eu ‘meistri’ atyn nhw hefyd yn mabwysiadu’r arferion hynny (wrth gwrs, chwaraeai economeg y peth ran yn amseru hyn hefyd).

Yn drydydd, bara gwyn. Noda Elwyn Hughes bod gwahanol mathau o fara yn arfer nodweddu gwahanol rannau o Gymru; bara rhyg yn Sir Faesyfed, bara haidd a gwenith ym Mrycheiniog, ceirch yn llawer o’r siroedd gorllewinol, gwenith yn Sir Fynwy yn unig. Ond mor gynnar ag oes beirdd yr uchelwyr, rhoddid bri arbennig ar fara gwyn – yn gymaint felly fel y’i defnyddid fel dihareb. Sonia Freeman (tud 90-102) am y gwahanol ffyrdd o wneud bara oedd yn gyffredin ymhlith gwerin Cymry yn hanesyddol. Mae’n nodi y defnyddid y ffwrn fach a geid mewn rhai cartrefi er mwyn pobi bara gwyn fel danteithfwyd achlysurol. Does dim rheswm i gredu na fyddai’r Cymry – a arferai i fwyta bara rhyg neu fara ceirch – ddim yn cymryd y cyfle i fwynhau bara gwyn amheuthun pan fyddai modd gwneud.

Felly, roedd y Cymry bron yn sicr yn defnyddio cynnyrch gwyllt o’u cwmpas; ac roeddent yn ddigon parod i fabwysiadu bwydydd ac arferion coginio newydd (ac i ollwng hen rai, megis medd a bragod). Ble mae hyn yn gadael hanes bwyd Cymru? Yn un peth, siawns na allwn ni bellach ollwng y syniad mai bwyd tlodaidd, undonog oedd bwyd traddodiadol y Cymry. Roedd yn ddigon i gadw lefelau’r sgyrfi yn isel ymhlith y boblogaeth am ganrifoedd (gweler eto gyfrol Elwyn Hughes am swmp o dystiolaeth o blaid hyn), ac yn cynnwys amrywiaeth o fwydydd gwyllt a chryn dipyn o brotein (hwyrach bod dwysedd poblogaeth cymharol isel y wlad yn gymorth yn hyn). Yn eilbeth, siawns bod hyn yn ein cymell i ailystyried y cysyniad o draddodiad ym maes bwyd; mae gwaith Thirsk yn dangos mai peth symudol oedd traddodiad, yn cynnwys newid llawn cymaint â pharhad. Roedd hinsawdd, tirwedd a chyflwr economaidd Cymru yn gosod terfynau ar fwyd a deiet y bobl, ond o fewn y terfynau hynny, roedd amrywiaeth o gynnyrch posib, a chodai rhai i fri a diflannai eraill yn rhannol yn ôl mympwy yr oes.

Yn olaf, mae’r darlun o hyn yn un mwy diddorol o lawer o hanes bwyd Cymru. Diddorol o safbwynt hanesyddol, ond hefyd o safbwynt yr ymchwil parhaus am fwyd da, blasus y mae cymaint ohonom yn cyfranogi ohono mewn rhyw ffordd neu gilydd. Oherwydd dagrau pethau yw i etifeddiaeth bwyd Cymru, fel y’u cawn yng ngwaith Minwel Tibbot, Bobby Freeman ac R Elwyn Hughes, ddiflannu bron yn llwyr yn ystod yr 20fed ganrif. Nid llanw a thrai a newid parhaus, naturiol ‘traddodiad’ oedd hynny, ond chwalfa. Bron y cwbl a adawyd yn sgil y chwalfa hon oedd cawl, pice ar y maen, bara brith ac un neu ddau eitem neu saig arall. Ac mae’r hyn a gollwyd – pobi ar faen, defnydd helaeth o fwyd môr, gwahanol mathau o yd mewn bara, cynnyrch y berth – mor ddiddorol, ac yn cyd-fynd yn agos â dyheadau nifer ym maes bwyd iach heddiw.

Ac os darllenwch gofnodion y sawl sy’n cofio’r pethau diflanedig hyn, fe gewch chi’r argraff annisgwyl ond pendant eu bod hefyd yn flasus ar y naw…

Ol-nodyn. Haeriad Gerallt Gymro a ddyfynwyd uchod; ‘y mae’r bobl yn byw ar eu preiddiau, ac ar geirch, llaeth, caws a menyn’. Mewn gwirionedd, ymgais sydd gan Gerallt yn yr ysgrif mewn cwestiwn i ddangos bod y Cymry yn wahanol i’r Saeson yn eu harferion, eu cymeriad, eu hadeiladau – ac hefyd eu bwyd. Felly nid sylw dilornus sydd gan Gerallt yma yn y bôn, ond sylw sydd yn goleuo’r ffaith nad oedd y Cymry yn bwyta’r un ffordd â’r Saeson. Byddai’r Saeson yn dibynnu’n bennaf ar wenith a haidd yn fwy na cheirch, ar gwrw ac nid llaeth, ac ar botes a chig, nid caws a menyn. Gorsymleiddio yw rhoi’r mater fel hyn mae’n siwr, ond mae’n ein cynorthwyo i edrych ar y deiet llaeth-ganolog hwn gyda llygaid newydd, fel un yr oedd uchelwr yn yr oes dan sylw ddim o reidrwydd am ddibrisio.


[1] https://www.theguardian.com/travel/2007/jun/03/escape.wales

[2] Feral, Monbiot, 19, 36, 231

[3] Elwyn Hughes, 93

[4] Freeman, 294

[5] https://en.wikipedia.org/wiki/History_of_the_potato

[6] Freeman, 261