Yn yr ysgrif diwethaf, cawsom gyfle i ystyried y diffyg rhyfedd sydd yn nhirwedd bwyd Cymru ar y naill law, ac yn ei brogarwch enwog ar y llall; sef y ffaith na chysylltir, yn gyffredinol, gymeriad ein bröydd gyda cuisine penodol. A dweud y gwir, go brin y cysylltir hyd yn oed bwydydd neu seigiau penodol gyda’n gwahanol bröydd, y tu hwnt i ryw syniad lled-gyffredin bod bara brith yn fwyd gogleddol, a pice ar y maen yn perthyn i’r deheudir.

Mae hyn yn fwy rhyfedd o nodi bod canfyddiad pur cyffredin hyd at ddechrau’r 20fed ganrif bod amrywiaeth ranbarthol sylweddol yn perthyn i batrwm bwyd ac amaeth yng Nghymru, dim llai nag a berthyn i iaith, crefydd neu bensaernïaeth o fewn y wlad. Mae cerdd David Thomas ‘Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru’ a drafodwyd yma, yn manylu ar hyn . Ond mwy dadlennol yw cyfeiriadau mynych a wneir wrth fynd heibio. Ystyriwn er enghraifft gerdd Ceiriog, ‘Pobl y potes a phobl y llymru’, sy’n cychwyn fel hyn:

A glywsoch chi hanes

Am ddau fan yng Nghymru,

lle mae pobl y potes,

a phobl y llymru?

Mae pobl y potes yn meddwl o hyd

am bobl y llymru sy’n brafied eu byd;

a phobl y llymru a haerant o hyd

Fod potes yn curo’r holl fwydydd i gyd….

(Aiff ymlaen wedyn i gyferbynnu mewn modd tebyg cwrw a gwin.)

Cerdd ysgafn yw hi, sy’n tynnu moeswers tua’i diwedd am dueddiad pobl i weld man gwyn man draw. Ond mae’r ffaith y gall Ceiriog dynnu ar gefndir cydnabyddedig gan ei ddarllenwyr lle mae cwrw a gwin yn wrthbwyntiau i’w gilydd, a lle mae potes a llymru hefyd yn wrthbwyntiau yn yr un modd yn adrodd cyfrolau ar dirlun bwyd Cymreig sydd bellach yn estron i ni.

Hynny yw, cynnyrch ceirch yw llymru, a fwyteid yn gyffredinol, ymddengys, yn yr holl barthau hynny lle roedd ceirch yn rhan sylfaenol o’r diet – sef y rhan helaethaf o dir uchel a bryniog Cymru, yn ymestyn o Sir Aberteifi ac Arfon ar yr arfordir gorllewinol, hyd Morgannwg, Maesyfed a Threfaldwyn yn y dwyrain. (Lleihau mewn pwysigrwydd wnâi ceirch wedi ein cyfnod, ond parhâi yn gnwd cyffredin ar ffermydd Cymru hyd ganol yr ugeinfed ganrif, a chofnodwyd ym 1938 bod 7,406 o erwau dan geirch ym Morgannwg, o’i gymharu â 2,209 erw o wenith, 1,447 erw o haidd, 1,609 erw o datws a bron i 3,000 o erwau o faip ac erfin.)[1]

Llaeth enwyn, blawd ceirch a dŵr yw unig gynhwysion llymru, ac fe’i hadwaenid o dan yr enw ‘sucan’ yn gyffredin yn siroedd y De. Er bod hanes diddorol a chymhleth iddo, sy’n cynnwys ei daith dros y ffin i Loegr o dan yr enw benthyg ‘flummery’, bwyd cymharol difaeth ydyw yn y bôn. Cynnyrch sefyll blawd ceirch mewn dwr nes iddo gymylu, ac yna berwi’r dwr hwnnw yw’r saig. Ac er iddo gael ei fwynhau fel byrbryd wrth gynaeafu, neu fel tamaid i aros pryd, nis ystyrid yn ddigonol i gymryd lle pryd bwyd mwy maethlon. Adlewyrchir hynny yn y dyfyniadau mynych a geir yn y cofnodion amdano:

‘Llymru lled amrwd

i lenwi bol yn lle bwyd’ (Llangybi, Sir Gaernarfon)

‘Llymru llwyd da i ddim

Ond i lenwi bol rhag isho bwyd’ (Parc, Meirionydd)[2]

O ddychwelyd i gerdd Ceiriog, rhywbeth amrywiol ei natur ond digon tebyg i’r hyn a elwir yn ‘gawl’ neu ‘lobsgows’ ar y llaw arall yw potes. Llysiau tymhorol, cig (yn enwedig cig moch) a rhywfaint o rawn – boed hynny yn flawd ceirch, haidd neu wenith – , a’r cwbl wedi ei ferwi am gyfnod hir cyn ei weini i’w fwyta gyda bara. Saig mwy maethlon felly hyd yn oed o dan yr amgylchiadau gwaethaf byddai potes, ac yn yr haf a’r hydref o leia, mwy blasus hefyd.

Ac o ystyried patrwm tyfu ceirch (ac felly bwyta llymru yn gyffredin) ar draws y wlad, a’r rhannau hynny o’r wlad sy fwyaf addas i dyfu llysiau (a lle gwyddom roedd llysiau fwyaf cyffredin), nid anodd yw tybio mai yn y bôn cyferbynnu diet pobl yr ucheldir a diet pobl yr iseldir y mae Ceiriog yn y gerdd uchod. Ac os oedd gwahaniaethau rhanbarthol mewn rhannau mor sylweddol o’r ddiet â’r prif ymborth, neu’r staple food ys dywedir, anodd dychmygu na fyddai hefyd gwahaniaethau lled sylfaenol yn rhannau eraill y ddiet – diodydd alcoholaidd, melysfwydydd, seigiau tymhorol prinnach, llysiau a pherlysiau ayyb.

Yn ffodus, does dim rhaid dychmygu er mwyn dechrau amlinellu rhai o’r gwahaniaethau hyn, er bod angen llawer o waith pellach i gloriannu a gwerthuso’r dystiolaeth sydd ar gael. Ac nid casgliadau pendant yw’r rhain o bell ffordd. Mae natur y gwahaniaethau yn ei hun yn gwestiwn digon dyrys, er enghraifft:  dim ond rhan o’r patrwm y gellir ei ailgreu yw’r gwahaniaeth uchod rhwng bwyd yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd, ac mae’r gwahaniaeth yn ei hun yn celu gwahaniaethau pellach rhwng dosbarthiadau cymdeithasol, daliadau crefyddol, ac arferion hyper-lleol gwahanol bentrefi neu deuluoedd hyd yn oed.

Nid rhestr gynhwysfawr yw hon felly, ond yn hytrach ymgais i geisio codi’r llen ar rai o’r arbenigeddau rhanbarthol a oedd o bwys lleol, ac a oedd yn rhan o ffordd o fyw i nifer sylweddol o drigolion yr ardaloedd hynny:

Aberoedd Llwchwr, Tywi a Taf – cocos. Parhaodd casglu cocos i fod yn arfer cyffredin gan ran sylweddol o’r boblogaeth oedd yn byw o fewn cyrraedd yr aberoedd hyn hyd o fewn cof, ac mae cofnodion di-ri o’r 19eg ganrif yn son am le canolog y ddefod i gasglu’r cocos o’r tywod ym mywyd trigolion y glannau hynny, a lle’r cocos yn neit y trefi a’r dinasoedd diwydiannol fel ffynhonnell fforddadwy o brotein.

Sir Fynwy – seidr afalau. Gwaith John Williams-Davies yw’r unig gofnod manwl cyhoeddiedig ar y testun hwn, ac fe’i crynhoir yn Afalau Cymru (2018). Mae tystiolaeth o’r genhedlaeth ola sy’n cofio’r hen ffyrdd o drin perllannoedd y sir wedi ei chasglu gan Gymdeithas Seidr a Pherai Cymru yma, ac erys y ffaith bod y diwydiant hwn wedi lliwio nid yn unig y dirwedd, enwau ffermydd a’r bensaerniaeth (trwy felinoedd seidr) ond hyd yn oed arferion cyflogaeth yn y sir ar un adeg – pan delid gweision fferm mewn seidr am eu gwaith.

Menyn Morgannwg. Gwelir y pwt yma am ymgais cychwynnol i drafod y maes hwn. Ond does dim amheuaeth na fu cysylltiad yn y dychymyg cyffredinol rhwng menyn a Sir Forgannwg am gyfnod hir mewn hanes, a’i fod yn un o allforion pwysicaf porthladdoedd yr arfordir deheuol.

Pysgodfeydd bae Aberteifi – ac yn benodol y penwaig. Mae cofnodion yn dyddio yn ol i’r oesoedd canol yn pwysleisio pwysigrwydd y diwydiant hwn ar hyd arfordir y gorllewin, o Aberporth ac Aberystwyth i fyny am Ben Llŷn. Noda Bobby Freeman bod pwysigrwydd y pysgodfeydd gorllewinol hyn yn cyferbynnu yn drawiadol gyda phorthladdoedd arfordir y De, ag Abertawe a Chaerdydd ddim yn datblygu diwydiant pysgota sylweddol hyd ddiwedd y 18fed ganrif.[3]

Eidion Eryri – y rhoddid cymaint o fri arno nes iddo fod yn un brif gynnyrch allforio Cymru am ganrifoedd, a hynny trwy ddwylo’r porthmyn. Diwydiant oedd hwn oedd yn ddigon sylweddol i lunio nid yn unig y dirwedd (trwy ffyrdd, tafarndai, ffynhonnau a llociau’r porthmyn ar hyd a lled y wlad) ond hefyd a greodd hunaniaeth gref a’i chwedloniaeth ei hun. Canolbwynt y cyfan oedd ansawdd y cig a ddoi o fridiau Cymreig o eidion – a’r rheiny yn parhau hyd heddiw i ennill cydnabyddiaeth fel un o’r cigoedd eidion gorau yn y byd. (Noder: mae’r Cymry yn hoff o ganu ein clodydd ein hun, ac yn tueddu i ymfalchio mewn rhywbeth fel petai’n eithriadol pan nad yw. Yn achos cig eidion, o’r tu allan y daw’r gyndnabyddiaeth, a hynny ers canrifoedd bellach).

Cwrw Wrecsam . Ceir cyfeiriadau mynych at gwrw Wrecsam, gan gynnwys un diddorol ym 1750 gan Edmund Jones am y llysenw ‘Cradociaid’ a roid ar ymneilltuwyr Wrecsam, a yrrid o’r dref oherwydd eu gwerthwynebiad i’r ddiod. Mae gan y dref ddwr da at fragu cwrw, a dyma wedyn y man cyntaf ym Mhrydain i ddod yn gartref i fragdy lager – cwrw Almeinig oedd yn estron i boblogaeth Prydain yn yr 1880au pan ddechreuwyd cynhyrchu Lagyr Wrecsam, ac a barhaodd am 120 o flynyddoedd, gan gysylltu enw Wrecsam unwaith eto â busnes bragu.

Mae peth wmbreth y gellid ei ddweud am bob un o’r uchod, a sawl cynnyrch arall y dylid ei gysylltu eto gyda’i fro. Ond pwysigrwydd hyn oll yw nid yn bennaf  y cyfle i gymryd golwg newydd ar agwedd ddigon diddorol o hanes bwyd Cymru; yn hytrach, mae i frogarwch bwyd berthnasedd mawr i ddyfodol bwyd ac amaeth yng Nghymru, a hynny mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, yn wyneb Brecsit a rheibio’r system ddiwydiannol-amaethyddol fyd-eang ar ffermydd bychain, ychydig iawn o siawns sydd gan ffermydd bychain Cymru i gystadlu. Ond o ganolbwyntio ar nwyddau gwerth ychwanegol (‘added-value’) ar gyfer marchnad gyfoethog Lloegr neu’r farchnad leol – fel oedd yn wir ym mho un o’r achosion a restrwyd uchod – mae yna ryw gyfle i barhau rhyw lun ar amaeth fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru.

Yr ail ffordd y mae i frogarwch bwyd berthnasedd i ddyfodol Cymru yw yn y cynnyrch lleol newydd hynny a allai, gydag amser, ddod yn arbenigedd gwbl newydd i’n broydd. Meddylier am win coch Morgannwg y 2030au, planhigfeydd te bryniau Ceredigion neu domatos dyffryn Clwyd. Mewn byd lle mae’r hinsawdd yn newid yn gyflym, mi fydd Cymru yn ei chael yn haws nag erioed o blaen cynhyrchu amrediad eang o gynnyrch. Yn ein dwylo ni mae’r dewis i’r cynnyrch yna, a’r posibiliadau a gynigiant, fod yn nwylo’r ffermwyr a’r cynhyrchwyr.


[1] Evans, Glamorgan, its history and topography, tud 136     

[2] Tibbot, Welsh Fare, tud.53

[3] Freeman, First Catch your Peacock, tud.41

One reply on “8. Bwydydd y broydd”

Comments are closed.