Ces i’r pleser o annerch cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru ym mis Tachwedd, a rhoi cyflwyniad cryno yno ar werth hanes bwyd Cymru wrth i ni ystyried posibiliadau ar gyfer bwyd ac amaeth Cymru i’r dyfodol. Penderfynais roi teitl ychydig yn smala i’r anerchiad: ‘Dim ond cennin a chig oen? Gwerth hanes bwyd Cymru i’r dyfodol’, neu yn Saesneg ‘Just leeks and lamb? Why Welsh food history matters for our future.’[1] Ond os yw hanes bwyd Cymru yn cynnwys mwy na chennin a chig oen a’r bwydydd eraill y byddwn ni’n meddwl amdanynt fel bwydydd traddodiadol Cymreig, ac efallai rhai bwydydd annisgwyl, beth yw’r bwydydd hynny?
Dyma gyflwyno felly rhai o’r cynhwysion a seigiau hynny ag iddynt hanes yng Nghymru – neu mewn rhyw ran o Gymru – ond sy’n bur anghofiedig erbyn heddiw. Byddai nifer ohonynt yn cael eu gweld gan lawer ohonom bellach fel bwydydd tramor, anghyfarwydd. Nid bwydydd cyffredin, bob dydd oedd y rhain i gyd, ond nid eithriadau dibwys chwaith:
Caws dafad
Hwn, a chaws geifr, oedd y caws arferol ym mharthau mynyddig Cymru o’r oesoedd cynharaf hyd y 19eg ganrif. Mae Thomas Pennant yn rhoi i ni ddisgrifiad cofiadwy o’r arfer o wneud y cawsiau hyn yn yr hafotai:
‘This mountainous tract scarcely yields any corn. Its produce is cattle and sheep, which, during summer, keep very high in the mountains, followed by their owners, with their families, who reside in that season in Hafodtai or summer dairy houses as the farmers do in the Swiss Alps do in their ‘sennes’….During summer, the men pass their time either in harvest work or in tending their hers; the women in milking or making butter and cheese. For their own uses, they milk both ewes and goats, and make cheese of the milk for their own consumption.’
Roedd yr arfer hefyd yn bodoli mewn rhannau o Forgannwg – y mynydd-dir yn bennaf, mae’n debyg:
“A kind of cheese is made in some parts of the country of all sheeps milk, or a mixture of sheep and cows’ milk, exceedingly rich and highly flavoured.; and when of a proper age, little if at all inferior to the boasted Parmesan.” (John Evans, 1804)
Un o’r pethau mwyaf diddorol am yr arfer hwn o fwyta caws gafr neu gaws dafad yng Nghymru yw’r cysylltiad rhyngddo a’r hoffter hanesyddol o gaws pobi: mae cawsiau gafr neu ddafad yn gallu bod yn addas iawn i’w pobi (meddyliwch am halloumi). Roedd y Cymry mor hoff o’u caws pobi nes i hynny fynd yn ystrydeb cyffredin iawn am y Cymry. Pam felly bu farw’r arfer? Mewn gair, ffasiwn. Ond mwy ar hyn yn Welsh Food Stories pan ddaw o’r wasg….
Wystrys
Bwyd rhad i’r tlodion ac un cyffredin mewn sawl parth arfordirol am ganrifoedd. Mor gynnar ag 1603 roedd y rhain cael eu hallforio o aber y Cleddau yn Sir Benfro – i lefydd amrywiol gan gynnwys i Fryste, Caerwrangon a threfi gorllewin Lloegr. Caent eu gwerthu yn nhrefi marchnad Cymru hefyd: mae disgrifiad o farchnad Caerfyrddin ym 1652 gan ŵr o’r enw John Taylor yn nodi bod modd prynu cant o wystrys am geiniog, sef pris 12 wy neu chwe gellygen. Yn ôl gwr arall ganrif yn ddiweddarach, roedd rhai o wystrys Dinbych-y-Pysgod yn cyrraedd rhyw 7 fodfedd ar eu traws – credai eu bod felly gyda’r mwyaf yn y byd. Noda teithiwr i Gymru yn 1807 bod Dinbych-y-Pysgod yn llawn o ‘Mountains of shells, the aggregate of many a century, occur in several parts of the town, forming a nuisance that would amply pay for removing’ Roedd bae Abertawe a’r Fenai hefyd yn fannau hel wystrys gyda physgodfeydd sylweddol yn eu dydd (o hyn daw enw’r pentref ‘Oystermouth’ ger y Mwmbwls) yn rhoi bywoliaeth am ran o’r flwyddyn i hyd at 500 o ddynion.
Roedd arfer ar draws Cymru o’u bwyta’n ffres ond roedd hefyd traddodiad o’u piclo i’w cadw a’u gwerthu – mae Lewis Morris (un o Forrisiaid enwog Môn) yn nodi bod wystrys Penmon ‘yn fawr a thew, ac yn enwog i’w piclo’. A’u blas? Doedd dim amheuaeth ym meddwl George Owen:
“Were it not that the Walfleete and Gravesend oysters are better frinded in court then this poore country oyster of Milford is, no question but he would, and well mighte, challenge to have the cheefe prayse before them both: and I presume if the poet Horace had tasted of this Milford oyster, he would not have preferred the oyster of Circæi before this”
Bara rhyg
Tueddu i feddwl am fara rhyg fel rhywbeth yn perthyn i ddiwylliannau dwyrain Ewrop y byddwn ni erbyn heddiw. Ond yn ei ddydd, ystyrid bara rhyg fel cynnyrch cyfarwydd, Cymreig. Mewn rhai ardaloedd, yn enwedig y parthau mewndirol, mynyddig â phridd sâl lle’r oedd tyfu gwenith yn wastraff amser, ar ryg a cheirch y byddai’r mwyafrif yn bodoli am eu cynhaliaeth. Roedd hyn hefyd yn wir mewn rhannau o Loegr, ond goroesodd yr arfer lawer hirach yng Nghymru – efallai yn rhannol oherwydd brogarwch nodedig y bobl. Mae tystiolaeth am y brogarwch hwn mewn cerddi hyd yn oed:
“Bara rhyg yw’r ymborth amla
Ymenyn caws sy’n aml ynddi”
Disgrifiad yw hwn o nodweddion traddodiadol Sir Faesyfed (yr oeraf a’r uchaf ond odid o siroedd Cymru) mewn cerdd gan David Thomas, 13 Sir Cymru (1750). Mae hefyd yn son am ‘rygau dibrin’ Sir Aberteifi ac yn nodi bod rhyg hefyd yn gysylltiedig â Sir Drefaldwyn. Fel mae’r gerdd yn nodi, bwyta bara rhyg fel y byddem yn ei ddisgwyl roedd pobl – gyda chaws a menyn (er bod hyn cyn i Iarll Sandwich ddyfeisio’r ‘brechdan’ modern). Ffasiwn – a’r gallu i brynu bara gwyn rhad pan ddechreuwyd mewnforio gwenith o dramor – roddodd y farwol i fara rhyg yma mae’n debyg, er i fara ceirch oroesi am hirach. Mae olion o’r arfer o dyfu rhyg wedi goroesi yn bennaf oll yn ein enwau lle: ceir sawl ‘Bryn Rhyg’ yng Nghymru, ac mae yna ‘Cae Rhyg’ ger Nefyn ym Mhen Llŷn.
Asbaragws
Mae cofnodion o dyfu asbaragws yng Nghymru yn dyddio yn ôl ganrifoedd. Mae gair Cymraeg amdano wrth gwrs – esbarag, a chofnod yng ngeiriadur Wiliam Salesbury amdano. Mae’n bur debygol bod rhai o’r uchelwyr yn ei dyfu a’i fwyta yn ystod cyfnod Salesbury yn y 16fed ganrif, ond erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd y llys hwn yn weddol gyfarwydd. Ar y 24 o Ebrill 1788 dyma ddisgrifiad gan un o Foneddigesau Llangollen o’u cinio y diwrnod hwnnw: “Dinner, Roast Mutton, boiled pork, peas pudding and the first asparagus we cut this year.” Yn fwy arwyddocaol, mae arolwg amaethyddol Gwallter Mechain o 1815 yn cynnwys disgrifiadau o gynnyrch gerddi marchnad Llandaf, a oedd yn cyflenwi llysiau i farchnadoedd ar draws De Cymru – ac ymhlith y llysiau hyn oedd asbaragws. Ac mae’n amlwg bod rhywrai rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn hoff o esbarag yng Ngogledd Ceredigion hefyd: rhwng 1842 ac 1844 mae cofnodion ystâd Nanteos ger Aberystwyth yn dangos y gwerthwyd yn lleol ‘surpluses…. of seakale, broccoli, leeks, carrots, cucumbers, asparagus, rhubarb, lettuce, gooseberries, peas, cauliflower, potatoes, strawberries, cherries, beans, cabbage, artichokes, raspberries, blackcurrants, melons, apples, pears, damsons and onions.’
Ac mae’r hyn sy’n wir am asbaragws yn wir am lwyth o lysiau eraill – berwr dŵr (ynys Môn a Bro Morgannwg), carw’r môr (sef samphire), bonau bresych (Pwll ger Llanelli – adnabuwyd pobl y pentre fel gwyr y bonau am eu hoffter ohonynt), moron gwynion (ynys Môn ond heb os ar draws y wlad – ffasiwn diweddarach ddaeth o’r Iseldiroedd oherwydd y teulu brenhinol yno oedd moron oren). A thomatos Cymreig! Erbyn yr 1890au roedd dwy dunnell yn cael eu tyfu yn wythnosol yn Llysonnen, dyffryn Teifi – a’u gwerthu a’u defnyddio’n lleol. Lle mwy amrywiol nag y bydd rhai yn tueddu meddwl oedd Cymru anghydffurfiol yr 18fed a’r 19eg ganrif – ac roedd hynny’n wir o ran arferion bwyta lawn cymaint ag unrhywbeth arall.
Ac mae hyn oll heb sôn am y ffrwythau… dwi wedi gwneud hynny eisoes yn Afalau Cymru
Cocos a wya
Yn ola enghraifft bach o ‘street food’ Cymreig ar ffurf rhigwm:
‘Cocos a wya, bara ceirch tena
Merched y penrhyn yn ysgwyd u tina’
Dyma ffrio cocos a wyau gyda’i gilydd, ac efallai tipyn o facwn hefyd. Ychwanegu pupur a halen yn ôl y galw. Yna bwyta’r cyfan rhwng tafelli o fara ceirch. Gwerthid ar y stryd/ yn y farchnad ar arfordir Eifionydd. Pwy honnai fod bwyd hanesyddol Cymru yn ddiflas?
[1] Eironi mawr hwn wrth gwrs yw nad oedd cig oen yn hanesyddol yn rhan bwysig o ddiet y Cymry, a hyd y gwela i does dim tystiolaeth chwaith iddo chwarae rol diwylliannol pwysig chwaith. Ond mater arall yw hwnnw y bydda i’n cyffwrdd ag e yn fy llyfr, Welsh Food Stories.