Mae brogarwch yn nodwedd gydnabyddedig o ddiwylliant y Cymry, a hynny yr un mor wir yn 2020 ag ydoedd yn oes hen ŵr Pencader, a’i eiriau chwedlonol i Frenin Lloegr a ddyfynnwyd gan Gerallt Gymro yn ei ‘Ddisgrifiad o Gymru’:
Ac nid unrhyw genedl arall, fel y barnaf fi, amgen na hon o’r Cymry, nac unrhyw iaith arall, ar Ddydd y Farn dostlem gerbron y Barnwr Goruchaf, pa beth bynnag a ddigwyddo i’r gweddill mwyaf ohoni, a fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o’r ddaear.
Mae’r brogarwch i’w weld amlycaf yma yn y ffordd y clyma’r hen ŵr ei safiad i’r ‘cornelyn o ddaear’ y mae ef ei hun yn byw ynddo. Adleisir hynny yng ngherddi beirdd canolog yr 20fed ganrif – ‘cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn’ TH Parry-Williams, mynydd Preseli Waldo ac yn y blaen gan sawl un arall. A chysylltir y tir dan sylw â ffordd o fyw ‘Gymreig’ yn bur aml – er bod union nodweddion y ffordd honno o fyw yn aros yn annelwig braidd. Bro mewn gair yn y psyche Cymreig modern yw’r cyfuniad o dirwedd, pobl benodol a iaith.
Un o’r pethau sy’n rhyfedd o absennol o’r cysyniad Cymreig hwn o ‘fro’, yn enwedig o’i gymharu gyda rhannau eraill o Ogledd-orllewin Ewrop, yw mor wan yw presenoldeb bwyd ynddo. Nid ei fod yn gwbl absennol – mae yna ryw ymwybyddiaeth ar lawr gwlad o gwrw Wrecsam, neu mai bwyd gogleddol yw bara brith; bod sewin yn dod o afon Tywi ayyb – ond cysgodion yw’r rhain, gwybodaeth ar gyrion yr ymwybod, ac nid ynghanol y darlun. Cymharer hynny gyda hunan-ddelwedd rhanbarthau Ffrainc, neu fröydd y Sprachraum (=ieith-dir) Almaeneg, lle mae gwahaniaethau rhwng y traddodiadau bara, ffrwythau’r perllannau a’r ddiod feddwol o ddewis yn rhan o wead cymdeithas (heb son am fwydlenni tai bwyta, arferion siopa a sgwrs diwylliedig).
Efallai bod golwg ar rannau eraill ynysoedd Prydain yn ein helpu i ddeall hyn: mae gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol a diddorol yn Lloegr (a gellid dweud llawer hefyd am yr Alban neu Iwerddon), a’r rheiny yn parhau i fod yn rhan o’r ymwybod cenedlaethol. Ond nodwch parhau – rhyw oroesiad symbolaidd o’r gorffennol yw scones and clotted cream swydd Ddyfnaint, Eccles cake neu hot pot swydd Lancashire a Sussex pond pudding. Ddim eu bod wedi diflannu o’r fwydlen, o geginau nac o dai bwyta; ond ni chant eu trafod gyda brwdfrydedd a diddordeb. Yn hytrach, maen nhw’n perthyn erbyn hyn i fyd cliche’r twrist a nostalgia am Loegr goll. Ac nid ydynt yn rhan sylweddol na phwysig o ddiet y boblogaeth. Nid traddodiadau rhanbarthol byw ydyn nhw bellach, ar y cyfan.
Felly hefyd, mutatis mutandis ac i raddau llai yng Nghymru – ac yn benodol y Gymru Gymraeg. Ond mae lle da i gredu bod yr ymwybyddiaeth ranbarthol, fröyddol hon yn gryfach yn y gorffennol. (Gair am y cysyniad peryglus a gorgyfleus hwnnw ‘y gorffennol’: nonsens fyddai’r ymgais hanfodaethol (‘essentialist’) i chwilio am cuisine traddodiadol digyfnewid i fröydd Cymru. Newid araf, cyson ac amrywiaeth sylweddol rhwng amseroedd, lleoedd a grwpiau gwahanol yw hanes bwyd Cymru, fel cymaint o hanes yn ei gyfanrwydd.) Fel y gwelsom wrth ystyried hanes menyn yng Nghymru, nodweddid amaethyddiaeth Morgannwg am rai canrifoedd o leiaf gan yr ymgais i greu menyn a’i allforio. Ystyrier yr hen ddywediad am bobl Port(hmadog): ‘pobl yr hŵrs a’r cregyn gleision’. Neu hanes hir cregyn aber Llwchwr, perllannau Sir Fynwy, ac ŷd Sir Fôn. Mae’r Mabinogi yn sylwi ym mwydydd gwahanol ranbarthau’r wlad, wrth basio megis – gw. yr ail gainc yn arbennig. Goroesodd rhai o’r traddodiadau bwyd hyn, a diflannodd eraill (ysgrifennais lyfr yn Saesneg ar y pwnc). Ond o ystyried y rhai a lwyddodd i oroesi hyd ddiwedd yr ugeinfed ganrif – o drwch blewyn – ychydig o’u bri a’u lle yn y diwylliant a lwyddasant i’w cadw.
Hynny yw, ymylu ar fod yn ddanteithion â gwerth sentimental neu atgofion nostalgaidd mae bwydydd rhanbarthol Cymru erbyn hyn, nid rhannau hyfyw, diddorol o’n diwylliant. (Ydy bara brith yn un o’r Pethe? Cwestiwn gwag yn anffodus…..)
Pa ots am hyn? Yn un peth, mae’n rhyfedd meddwl am ddiwylliant sy’n rhoi cymaint o bwyslais ar dir ac arwyddocâd diwylliannol y tir hwnnw heb fod y diwylliant hwnnw yn rhoi’r un bri ar gynnyrch y tir. Ac yn y bwlch hwnnw, collir hefyd y potensial sydd gan y tir i chwarae ei rôl fel rhan hanfodol o sylfaen economaidd cymdeithas, ac felly o ganlyniad diwylliant. Bydd enghraifft o fudd yma, o faes y gwn ryw ychydig amdano, sef hanes afalau Cymru. Dangosais yn Afalau Cymru le perllannau a’u cynnyrch yn ffrwyth ac yn seidr yn niwylliant a hanes Cymru o’r 8fed ganrif hyd ganol yr 20fed. Tyfid afalau yn helaeth trwy diroedd Cymru gan bob rhan o’r gymdeithas. Roedd sôn yn ein llenyddiaeth, yn ein caneuon ac yn ein enwau lleoedd am afalau a’u cynnyrch (fel bwydydd eraill hefyd). Roeddent yn arbennig o bwysig yn y diwylliant yn Sir Fynwy, Morgannwg a Brycheiniog, ac amodau tir a hinsawdd yn ffafriol i’r mathau cynhenid.
Diflannodd y traddodiad afalaidd bron yn llwyr rhwng diwedd yr ail ryfel byd a’r 1970au. Collwyd rhwng 95 a 98% o berllannau Cymru – miloedd ar filoedd o erwau. Aeth yr ymwybyddiaeth bod traddodiad afalaidd – mathau cynhenid o afal, traddodiad seidr ganrifoedd oed, caneuon ac arferion gwerin – i gyd yn angof. Cof da gennyf godi’r mater gyda’r gwych John Davies, Bwlchllan. Gwyddai dim am y maes, a gallai ddim dechrau trafod lle afalau a pherllannau yn hanes Cymru. Diflannodd rhan sylweddol, bwysig o’n diwylliant o’n hymwybod. A gyda hynny, diflannodd potensial economaidd.
Oherwydd y gwir amdani yw bod iseldir y siroedd hynny yn y de-ddwyrain yr un mor ffafriol i gynhyrchu afalau ag ydy siroedd Dyfnaint a Chernyw. Cymharer y proffil hinsawdd ac ansawdd y tir – mae rhannau o’r de-ddwyrain cystal â swydd Henffordd neu swydd Somerset i dyfu afalau. Yn y rhanbarthau Seisnig hynny, cadwyd y diwydiant afalau a seidr, a chyda hwy ffynhonnell incwm mewn ardaloedd gwledig. Yn y siroedd Cymreig, diflannodd y cwbl. Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth a niferus, ac roedd sawl ffactor ar waith; ond nid am fod y tir a’r hinsawdd yn fwy ymylol i’r cynnyrch y diflannodd y traddodiad Cymreig. Ac o’i golli, collwyd sgiliau a diwydiant cyfan a allai fod wedi parhau a chyfrannu nid yn unig i anghenion bwyd a diod Cymru, ond gyda marchnata da hefyd diwydiant allforio a thwristiaethol. (Erbyn hyn mae hynny’n digwydd – ond ar raddfa gymaint yn llai o hyd na phe na collid y traddodiad yn y cyfamser).
Ystyr bwydydd y bröydd felly yw potensial economaidd ein tir o fewn diwylliant sy’n gwerthfawrogi hynny. Arbenigedd leol sy’n tynnu ar naratif hanesyddol o’r defnydd y gellir ei wneud o hinsawdd, pridd a thirlun, ac yn creu bwyd o’r deunydd crai hynny: ond nid yn unig ‘bwyd’, ond bwyd y gwyddom ni ei arwyddocâd, ac sy’n gynnyrch y rhan honno o’r byd sy’n gyfarwydd i ni. Dyna a wnewn y tro nesaf felly: ystyried a mentro rhestru rhai o fwydydd bröydd Cymru dros y canrifoedd diwethaf a hyd heddiw.