Yn ‘Dysgl bren a
dysgl arian’, un o’r unig gyfrolau cynhwysfawr yn y Gymraeg sy’n ymdrin â maes
hanes bwyd y Cymry, mae R Elwyn Hughes yn creu darlun digon clir o ansawdd diet
y werin Gymreig. Roedd ‘ceidwadaeth gysefin y Cymry’ (tud. 274), a’u hamharodrwydd
syfrdanol i ddefnyddio’r adnoddau naturiol o’u cwmpas (gw. pennod 5, ‘Bwyta’n
wyllt’) yn golygu na ellir ‘ond sylwi cyn lleied ddewis mewn gwirionedd a fu gennym erioed yn
natur ein lluniaeth’. Undonog, diflas a bron anfaethlon yw’r diet Cymraeg fel y
mae R Elwyn yn ei bortreadu, a hynny o’r oesoedd canol hyd yr oes fodern. Cymera’n
ganiataol bod eu diffyg ymborth gwyrdd yn golygu bod sgyrfi’n rhemp
(tud.93-133), ac mai byw ar fara, ceirch a chynnyrch llaeth, gan gadw at hen
ryseitiau syml a diddordeb oedd patrwm y Cymry. Ac mae lleisiau eraill ar hyd y
canrifoedd wedi ategu’r darlun cyffredinol hwn. Y mwyaf enwog o blith y rhain o
bosib yw’r hynaf hefyd, Gerallt Gymro, a ddywedodd, ‘y mae’r bobl yn byw ar eu
preiddiau, ac ar geirch, llaeth, caws a menyn’. Yn fwy diweddar, cyfeiriodd y
‘Guardian’ at Gymru’r ugeinfed ganrif fel ‘gastronomic desert’.[1]
Ond methu ag
argyhoeddi a wna’r ddadl, a hynny am ddau reswm pennaf.Yn gyntaf, fe wyddom fod
y byd naturiol yng Nghymru yn doreithiog ei gynnyrch yn yr oesoedd a fu. Mae
cofnodion o fae Ceredigion o heigiau o bysgod oedd tair milltir o hyd mor
ddiweddar â dechrau’r 20fed ganrif – cofnodion credadwy am eu bod yn adlewyrchu
rhai cyffelyb mewn rhannau eraill o Ogledd Ewrop yn y cyfnod cyn-fodern.[2]
Yn yr un modd y diwydiant wystrys ym mro Gwyr; byddai pob cwch yn dod â 7-8000
o wystrys i’r lan yn ddyddiol ar ddechrau’r 18fed ganrif. Erbyn yr 1870au roedd
y gyflenwad naturiol wedi eu disbyddu i’r fath raddau fel bod wystrys yn mynd
yn fwyd drud o fewn cyrraedd y bonedd yn unig. Ac o ran cynnyrch y tir –
madarch, anifeiliaid gwyllt, cnau, llysiau a ffrwythau gwyllt – mewn amgylchedd
lle nad oedd chwynladdwyr a ffwngladdwyr modern, a lle roedd lefelau
bioamrywiaeth yn ôl pob cofnod a phob mesuryn sydd o fewn ein gafael yn llawer
uwch na heddiw (o leiaf i ffwrdd o’r ardaloedd hynny lle roedd diwydiant trwm),
roedd amgylchfyd y Cymry lawn mor doreithiog ag unrhyw ran arall o Ogledd Ewrop
(ac yn fwy felly mewn gwirionedd oherwydd amrywiaeth y dirwedd, a phresenoldeb
y môr).
Ond a fyddai’r
Cymry yn gwneud defnydd o’r cynnyrch toreithiog hyn? Mae sawl rheswm i feddwl y
gwnaent. Yn gyntaf, noda Elwyn Hughes ei hun mai ‘cymharol brin yw’r
cyfeiriadau [at sgyrfi, a achosid gan ddiffyg fitamin C] yng Nghymru yn ystod y
cyfnod hwn’[3], a bod
sgyrfi yn gyffredin yn dilyn prinder tatws yn yr Alban (1846), Lloegr ac
Iwerddon (1847) – ond llawer llai yng Nghymru. Awgryma hyn oll bod deiet y
Cymry yn fwy amrywiol, ac yn enwedig eu bod yn dibynnu’n llawer llai ar datws
ar gyfer eu cymhorthiant o fitamin C. Dim ond dau achos posib sydd i hyn; eu
bod yn bwyta mwy o lysiau (yr hyn mae Elwyn Hughes hefyd yn ei gael yn anodd i
gredu), neu eu bod yn bwyta mwy o fwydydd gwyllt – neu’r ddau. Ymhellach yn ei
gyfrol ei hun, mewn cyswllt gwahanol, rhydd ragor o dystiolaeth ddogfennol o
arfer y Cymry o ddefnyddio bwyd gwyrdd gwyllt; eu ‘diodgriafol’ (tud. 216),
defnydd pobl Llanrwst o’r efwr yn lle asparagws yn yr 19eg ganrif (tud.98),
pobl cylch Llanofer yn bwyta danadl ifainc (p.255), a chofnod Iolo bod gwerin
Bro Morgannwg yn defnyddio 19 math gwahanol, gan gynnwys samphir (tud 243.) Ac
mae twrio cyflym yn dod â rhagor o enghreifftiau i’r fei; y dywediad
traddodiadol bod pobl Port yn ‘hwrs a lladron a phobl cregyn duon’; yr arferion
cyffredin a phrofedig o bysgota eog, sewin, mecryll yn eang, ac o hel cocos a
chynaeafau gwymon; rysait a ddefnyddiai suran y coed o lyfr coginio o Nannau a
Hengwrt yn 1796;[4] yr
arferion cyffredin yn ymwneud â pherlysiau at ddibenion meddygol e.e. gan
Feddygon Myddfai; a lliaws o gyfeiriadau pendant yn dyddio yn y mwyafrif o
achosion o ddiwedd yr 19fed ganrif o ddefnyddio llus, blodau’r eithin, blodau’r
ysgawen ac eraill mewn diodydd ac wrth goginio. Yn wyneb y dystiolaeth o bob
cwr o’r wlad o gymaint o wahanol fathau o fwydydd gwyllt, anodd credu bod tabw
yn erbyn eu defnyddio yn bodoli ymhlith y Cymry, a byddai angen rhywbeth o’r
fath i esbonio pam na fyddent yn gwneud defnydd o’r doreth naturiol o’u cwmpas.
Yr ail reswm pam
fod dadl Elwyn Hughes yn syrthio’n fyr o’r nod o safbwynt hanesyddol, yw am ei
fod yn methu â chymryd natur dynol ar ffurf chwilfrydedd i ystyriaeth. Er mwyn
gweld pam, rhaid cyflwyno Joan Thirsk i’r drafodaeth. Trueni na fu i Thirsk ag
Elwyn Hughes (a oedd yn athro ym maes maetheg) drafod eu canfyddiadau gyda’i
gilydd cyn iddynt farw yn ystod y degawd diwethaf ill dau. Hanesydd amaeth yn
Lloegr oedd Joan Thirsk am dros drigain o flynyddoedd. Tua diwedd ei gyrfa,
troes ei sylw at hanes bwyd yn Lloegr ac ysgrifennu stoncar o gyfrol, Food in Early Modern England, a
weddnewidiodd y maes.
Dadl syml ond
chwyldroadol Thirsk yw hyn: bod y bobl gyffredin, a oedd yn byw gyda’r
uchelwyr, a oedd yn eu gweini, yn paratoi eu bwyd, yn gweithio yn eu gerddi
ayyb, yn ymddiddori yn yr hyn yr oedd eu meistri yn ei fwyta. Nid yn unig
hynny, ond byddent yn eu dynwared. Mewn gair, bod ffasiwn ym maes bwyd yn
bodoli yn yr 1500au – ac yn yr 1600au, yr 1700au ayyb. Doedd gan werin Lloegr
oes Elisabeth, ac oes Siôr a phob oes arall ddim diddordeb mewn bwyta bwyd
diflas os gallent gael bwyd mwy diddorol. Roeddent yn chwilfrydig, ac felly
byddai rhai ohonynt – digon i gael effaith ar y lleill – yn arbrofi. Trwy
hynny, byddai dylanwadau newydd – ffyrdd newydd o goginio, bwydydd newydd i’w
defnyddio, seigiau newydd i’w blasu – yn glanio ar blatiau ac yng ngenau’r
werin bobl.
Dadl gryf yw hon,
nid yn unig am ei bod yn cymryd fel cynsail iddi y ffaith bod natur dynol, at
ei gilydd, yr un fath o oes i oes. Wrth gwrs y bu i’r Saeson, y Ffrancod, yr
Iseldirwyr gymryd diddordeb yn yr hyn roedd eu meistri, a’u cymdogion, a nhw eu
hunain yn bwyta! Nid chwyldro cyson mae Thirsk yn ei ddisgrifio, nac ychwaith
diffyg absoliwt parhad; roedd rhwystrau economaidd, salwch y pridd mewn sawl
man, yr hinsawdd a’r tywydd yn dal i gyfyngu ar opsiynau’r werin. Cyflwyna
Thirsk storfa helaeth o dystiolaeth i gefnogi ei dadl. A allwn wneud yr un fath
yn achos y Cymry?
Digon hawdd
fyddai gwneud heb orfod twrio yn rhy ddwfn i’r archifau. Gwneith tri esiampl yr
achos am y tro. Y cyntaf yw tato. Newydd-ddyfodiad yw’r tato, o’i gymharu gyda
llawer o’n bwydydd traddodiadol eraill. Daeth o’r Amerig yn sgil y
trefedigaethu cynnar yno, a dechrau lledu ymhlith gwerin Ewrop yn yr 17eg
ganrif[5].
Mae Elwyn Hughes yn nodi y mabwysiedid y tato ar raddfa eang yng Nghymru erbyn
1742, ac mae cofnodion o stadau Morrisiaid Môn yn ail hanner y ganrif honno yn
son am eu medelwyr yn cynnwys tato yn eu potes. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif
roedd y tato yn ffynhonnell egni pwysig i’r boblogaeth, a chododd llu o ffurf
o’i ddefnyddio – cawl, tatws popty, wyau
Sir Fôn, tatws llaeth ayyb. Felly chwilfrydedd, ac nid ‘ceidwadaeth
gynhenid’ enillodd y dydd yn achos y tato.
Felly hefyd yn
achos te; mewnforyn o wledydd lled-drofannol oedd te, ac roedd diodydd eraill,
dengar eisoes ar gael i’r Cymry na fyddai’n rhaid iddynt brynu (o leia pobl y
wlad) – cwrw bach, seidr mewn mannau, llaeth enwyn, meddeglyn a mwy. Diod i’r
bonedd oedd te (a choffi) yn wreiddiol, ac roedd salonau te yn gweini ar
grachach Llundain a Pharis ymhell cyn i’r ddiod ddod i enau gwerin Cymru. Ond
erbyn canol y 19eg ganrif, roedd te wedi ennill ei blwyf ymhlith pob sector o’r
boblogaeth ac ym mhob rhan o’r wlad.[6]
Gymaint felly fel bod pryd syml wedi ei ddyfeisio yr oedd te yn brif gynhwysyn
iddo, ‘siencyn te’, a oedd yn gyffredin ar draws y wlad erbyn diwedd yr 19fed
ganrif. Felly hefyd yr arfer cyffredin o drochi’r cynhwysion mewn te cyn gwneud
bara brith. Unwaith eto, arweiniai chwilfrydedd y bobl i arferion a danteithion
eu ‘meistri’ atyn nhw hefyd yn mabwysiadu’r arferion hynny (wrth gwrs,
chwaraeai economeg y peth ran yn amseru hyn hefyd).
Yn drydydd, bara
gwyn. Noda Elwyn Hughes bod gwahanol mathau o fara yn arfer nodweddu gwahanol
rannau o Gymru; bara rhyg yn Sir Faesyfed, bara haidd a gwenith ym Mrycheiniog,
ceirch yn llawer o’r siroedd gorllewinol, gwenith yn Sir Fynwy yn unig. Ond mor
gynnar ag oes beirdd yr uchelwyr, rhoddid bri arbennig ar fara gwyn – yn
gymaint felly fel y’i defnyddid fel dihareb. Sonia Freeman (tud 90-102) am y
gwahanol ffyrdd o wneud bara oedd yn gyffredin ymhlith gwerin Cymry yn
hanesyddol. Mae’n nodi y defnyddid y ffwrn
fach a geid mewn rhai cartrefi er mwyn pobi bara gwyn fel danteithfwyd
achlysurol. Does dim rheswm i gredu na fyddai’r Cymry – a arferai i fwyta bara
rhyg neu fara ceirch – ddim yn cymryd y cyfle i fwynhau bara gwyn amheuthun pan
fyddai modd gwneud.
Felly, roedd y
Cymry bron yn sicr yn defnyddio cynnyrch gwyllt o’u cwmpas; ac roeddent yn
ddigon parod i fabwysiadu bwydydd ac arferion coginio newydd (ac i ollwng hen
rai, megis medd a bragod). Ble mae hyn yn gadael hanes bwyd Cymru? Yn un peth,
siawns na allwn ni bellach ollwng y syniad mai bwyd tlodaidd, undonog oedd bwyd
traddodiadol y Cymry. Roedd yn ddigon i gadw lefelau’r sgyrfi yn isel ymhlith y
boblogaeth am ganrifoedd (gweler eto gyfrol Elwyn Hughes am swmp o dystiolaeth
o blaid hyn), ac yn cynnwys amrywiaeth o fwydydd gwyllt a chryn dipyn o brotein
(hwyrach bod dwysedd poblogaeth cymharol isel y wlad yn gymorth yn hyn). Yn
eilbeth, siawns bod hyn yn ein cymell i ailystyried y cysyniad o draddodiad ym
maes bwyd; mae gwaith Thirsk yn dangos mai peth symudol oedd traddodiad, yn
cynnwys newid llawn cymaint â pharhad. Roedd hinsawdd, tirwedd a chyflwr
economaidd Cymru yn gosod terfynau ar fwyd a deiet y bobl, ond o fewn y
terfynau hynny, roedd amrywiaeth o gynnyrch posib, a chodai rhai i fri a
diflannai eraill yn rhannol yn ôl mympwy yr oes.
Yn olaf, mae’r
darlun o hyn yn un mwy diddorol o lawer o hanes bwyd Cymru. Diddorol o safbwynt
hanesyddol, ond hefyd o safbwynt yr ymchwil parhaus am fwyd da, blasus y mae
cymaint ohonom yn cyfranogi ohono mewn rhyw ffordd neu gilydd. Oherwydd dagrau
pethau yw i etifeddiaeth bwyd Cymru, fel y’u cawn yng ngwaith Minwel Tibbot,
Bobby Freeman ac R Elwyn Hughes, ddiflannu bron yn llwyr yn ystod yr 20fed
ganrif. Nid llanw a thrai a newid parhaus, naturiol ‘traddodiad’ oedd hynny,
ond chwalfa. Bron y cwbl a adawyd yn sgil y chwalfa hon oedd cawl, pice ar y
maen, bara brith ac un neu ddau eitem neu saig arall. Ac mae’r hyn a gollwyd –
pobi ar faen, defnydd helaeth o fwyd môr, gwahanol mathau o yd mewn bara, cynnyrch
y berth – mor ddiddorol, ac yn cyd-fynd yn agos â dyheadau nifer ym maes bwyd
iach heddiw.
Ac os darllenwch
gofnodion y sawl sy’n cofio’r pethau diflanedig hyn, fe gewch chi’r argraff annisgwyl
ond pendant eu bod hefyd yn flasus ar y naw…
Ol-nodyn. Haeriad Gerallt Gymro a ddyfynwyd uchod; ‘y mae’r
bobl yn byw ar eu preiddiau, ac ar geirch, llaeth, caws a menyn’. Mewn
gwirionedd, ymgais sydd gan Gerallt yn yr ysgrif mewn cwestiwn i ddangos bod y
Cymry yn wahanol i’r Saeson yn eu harferion, eu cymeriad, eu hadeiladau – ac
hefyd eu bwyd. Felly nid sylw dilornus sydd gan Gerallt yma yn y bôn, ond sylw
sydd yn goleuo’r ffaith nad oedd y Cymry yn bwyta’r un ffordd â’r Saeson.
Byddai’r Saeson yn dibynnu’n bennaf ar wenith a haidd yn fwy na cheirch, ar
gwrw ac nid llaeth, ac ar botes a chig, nid caws a menyn. Gorsymleiddio yw
rhoi’r mater fel hyn mae’n siwr, ond mae’n ein cynorthwyo i edrych ar y deiet
llaeth-ganolog hwn gyda llygaid newydd, fel un yr oedd uchelwr yn yr oes dan
sylw ddim o reidrwydd am ddibrisio.
[1] https://www.theguardian.com/travel/2007/jun/03/escape.wales
[2] Feral, Monbiot, 19, 36, 231
[3]
Elwyn Hughes, 93
[4]
Freeman, 294
[5] https://en.wikipedia.org/wiki/History_of_the_potato
[6]
Freeman, 261