3. Y Tai Mawrion (rhan 1)

Ceisio llunio disgrifiad hanesyddol cywirach ac mwy cynhwysfawr o fwyd Cymru na’r hyn sydd ar gael yn gyffredinol yr ydym yn y gyfres yma o ysgrifau. Y broblem bennaf a gawn yn yr ymdrech yw’r diffyg cofnodion manwl ar gyfer y cyfnod cyn cc.1860 o’r bwydydd oedd ar gael i bobl eu bwyta, a’r hyn y byddent yn ei fwyta (nid yr un yw’r ddau beth hynny, wrth gwrs). Mae’r diffyg hynny yn fwy sylweddol yn achos Cymru nag yn achos cymdeithasau Ewropeaidd cyfagos (e.e. Lloegr, Ffrainc, yr Iseldiroedd) a hynny am sawl rheswm.[1] Rhaid felly edrych am dystiolaeth fwy cymysg ei natur – adroddiadau teithwyr i Gymru, mân gyfeiriadau yn llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, mapiau a chofnodion defnydd tir, ac yn gyntaf oll, archifau ystadau’r bonedd. Trwy hyn gellir darlunio llun digon cynhwysfawr, os nad cyflawn yn ei holl fanylion.

ar sylwadau Daniel Defoe ar yr hyn a ddaeth ar ei draws o ran bwyd ac amaeth yng Nghymru’r 1720au.[2] Ni chawn yr un awgrym ganddo bod yr amgylchiadau economaidd yn ei daro yn wahanol iawn i’r hyn welsai yn rhanbarthau Lloegr. Rhan o’r realiti hwnnw oedd bod cyfran helaeth o dir Cymru yn perthyn i dirfeddianwyr cefnog – hen deuluoedd y mân bonedd (mân yn ôl safonau Lloegr) a oedd mewn sawl achos wedi ymgyfoethogi yn sgil chwyldroadau’r 1530au: cau’r mynachlogydd ac uno Cymru a Lloegr. Mae eu diffyg statws cymharol yn glir o’r ffaith na fu i Defoe ddisgrifio yr un o’u tai ar ei gylchdaith o amgylch Cymru, tra bod plasau crand siroedd Lloegr yn cael disgrifiad manwl yn yr holl adroddiadau cyffelyb ganddo. Serch hyn, dyma dai mawr a thiroedd y sawl a oedd yn flaenllaw mewn cymdeithas ym mhob plwyf yng Nghymru. Rhain oedd y landlordiaid a’r cyflogwyr mawr; y rhain fyddai’n dilyn neu’n arwain ffasiwn yn y cyfnod, boed hynny ym maes dillad, pensaernïaeth, amaeth neu fwyd.

Mae’n werth oedi ar y pwynt yna cyn troi at enghreifftiau penodol. Sef yw, ffasiwn; un o foduron pwysicaf newidiadau cymdeithasol, a rhywbeth sydd fel petai’n deillio o ffynhonnau dyfn o fewn y natur ddynol. Dangosodd Joan Thirsk yn anwadadwy bod ffasiwn yn rhan hollbresennol o hanes bwyd ac amaeth yn Lloegr, ac yn benodol, bod y dosbarthiadau is yn tueddu i ddilyn ffasiwn y bonedd.[3] Darluniodd fyd lle’r oedd newyddiadau mewn bwyd yn codi yn Llundain a’r porthladdoedd mawr yn gyntaf, ac yn lledu oddi yno trwy gysylltiadau’r bonedd, yr oedd gan lawer ohonynt dŷ trefol yn y ddinas fawr ac ystâd arall yn y wlad. Byddai’r gweision a morynion di-ri – yn fwtleriaid a chogyddion, garddwyr a negeswyr – yn gweld yr hyn yr oedd eu meistri yn ei fwyta, ei wisgo neu ei drafod, a byddai hynny yn ei dro yn dylanwadu ar eu harferion nhw. Fel sy’n gyffredin mewn meysydd eraill megis ieithyddiaeth felly, gallwn ddal gafael ar y cysyniad yma o ddylanwad fel mecanwaith hanfodol wrth geisio deall natur a chyfeiriad newid hanesyddol. Mae dau gwestiwn i’w hateb felly; beth oedd bwyd y tai mawrion Cymreig hyn? Ac yn ail a oedd yna dylanwadau yn llifo o’r tai mawrion i weddill y boblogaeth?

O ateb y cyntaf a chanfod diet amrywiol byddwn eisoes wedi rhoi’r farwol i hanesyddiaeth gyffredin bwyd Cymru sy’n haeru mai undonog oedd bwyd y Cymry, a hynny am fod hanes Cymru yn ehangach na hanes y werin wledig. Ond fe ellid ein cael ein hunain yn sgil hynny gyda darlun tebyg i eiddo Iwerddon hanesyddol, sef bwlch go sylweddol rhwng y dosbarth uwch, angloffon a chefnog, a’r werin dlawd, Wyddeleg ei  hiaith. Dangoswyd yn weddol argyhoeddiadol mai tlawd oedd bwyd y werin Wyddelig hyd yr 20fed ganrif a hynny er gwaetha cyfoeth rhai o’r tirfeddianwyr a ffrwythlondeb rhannau helaeth o’r ynys;[4] ond eto, gwlad wedi eu rheibio gan ganrifoedd o ryfel oedd Iwerddon, dioddefodd newyn apocalyptaidd, ac roedd y bwlch cymdeithasol rhwng yr uchelwyr a’r werin yn ddyfnach na iaith a hil yn unig. Doedd y pethau hyn ddim yn wir am Gymru’r cyfnod.

Gwyddom wrth waith Thirsk a’r cofnodwyr niferus y mae’n galw arnynt (Gervase Markham, John Parkinson, Samuel Hartlib, William Ellis ac eraill) bod twf sylweddol iawn mewn amrywiaeth bwyd yn Lloegr rhwng 1550 ac 1660. Aeth bwydydd brodorol o bob math yn fwy cyffredin, yn rhatach ac yn haws i’w cael: yn ffrwythau caled, yn bysgod pwll, yn wreiddlysiau, yn ffowls ac yn gawsiau. Cynyddodd y defnydd o siwgr a finegr i gadw bwydydd yn aruthrol. Aeth danteithion fel asbaragws o fod yn hynodbeth i fod yn nodwedd aneithriadol o erddi a byrddau Llundain. Ac aeth bwydydd tramor – sbeisis, ffigys, orennau a llawer mwy – o fod yn beth yr oedd haenen uchaf cymdeithas yn unig yn medru eu mwynhau i fod o fewn cyrraedd y dosbarth canol, ac yn rhan gyfarwydd o’u coginio.

Beth felly am y darlun yng Nghymru? Sut bethau oedd ystadau’r man bonedd hyn yn y cyfnod dan sylw, sef i bob pwrpas 1550-1750? Mae’r cwestiwn yn haeddu astudiaeth lawn a hirfaith, ond er dichonadwyedd, dyma ymgyfyngu i gofnodion ambell i ystâd bychan yng nghefn gwlad Sir Gâr. Canolbwyntiwn ar ambell i enghraifft anadnabyddus, gan gofio bod yr hyn oedd yn wir am y rhain yn fwy gwir eto am Aberglasni, Dinefwr, Plas Abergwili, Middleton ayyb:[5]

  • Abercyfor, Llandyfaelog. Yn meddiant teulu’r Dwnniaid yn wreiddiol, prynwyd gan Syr Erasmus Philipps o Gastell Pictwn ger Hwlffordd yn 1680, ac y pryd roedd yno ‘the Great Mansion House and thh Courts there, the Orchard, the Box Garden and the Little Dial Close, and the garden adjoining.’ Ffermydd da byw sydd yno bellach, gyda’r tir i gyd dan laswellt.
  • Heol Ddu, Llanarthne. Fferm gefnog â dau ffermdy (dau frawd oedd yn berchen ar yr ystâd) a adeiladwyd rhwng 1748 ac 1756. Codid gardd furiog i’r de-ddwyrain yr un pryd. Ceir cofnod manwl o’r holl gnydau a dyfid yno, gan gynnwys ffrwythau’r ardd, o ganol y 19fed ganrif – er bod hyn ymhell ar ôl ein cyfnod, mae presenoldeb yr ardd yn yr 1750au a chost adeiladu muriau o’r fath yn awgrym cryf y defnyddid cynnyrch yr ardd yn helaeth gan y teuluoedd yn yn yr adeg yr adeiladwyd yr adeiladau.
  • Llechdwnni, Llandyfaelog. Fferm yw hon bellach, ond dyma gartref teulu’r Dwnn am 25 o genedlaethau, hyd 1909. Roedd un ohonynt, Morris ab Owen yn Uchel Siryf yn 1615. Gwelir y tŷ ar fap 1610 John Speed o’r sir, a recordiwyd yno bum lle tân yn 1670. Priododd ei ferch ieuengaf fab cefnog o Croydon, Surrey ym 1626. Yn y ganrif honno, yn ogystal a’r Plas roedd gardd furiog yn estyn dros dwy gyfer, a’r muriau dros 3 metr o uchder (a wyneb briciau arnynt i guddio’r garreg leol oddi tano – nodwedd ffasiynol, a drud). Roedd belvederes – tyrrau addurniadol lle gallai’r bonedd a’u hymwelwyr fwynhau’r golygfeydd dros Gwm Gwendraeth Fach wrth fynd am dro o gwmpas yr ardd (cymharer gyda’r nodwedd debyg yn Aberglasni). Wrth eu traed roedd pwll artiffisial hirsgwar, yn ôl ffasiwn y cyfnod hefyd. Aeth yr ystâd yn ffarm yn ystod yr 1800au, a syrthiodd y gerddi a nodweddion eraill yr ystâd yn adfail.
  • Abermarlais, Llansadwrn. Yn y 14eg ganrif, dyma gartref Syr Rhys Hen ap Gruffydd. Disgrifir priodas un o’i ddisgynyddion gydag wyres Dinefwr mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi. Gwnaed arolwg o’r ystâd yn 1531, a nodir bod yno ffos a chwrt o wneuthuriad diweddar. Roedd dodrefn moethus yn y tŷ, a pharc ceirw y tu hwnt i’r gerddi. Ym 1670 roedd yno 21 (!) le tân. O ran y gerddi eu hun, ceir map yn 1761 yn nodi nid yn unig sawl perllan, ond hefyd meithrinfa blanhigion. Roedd yma ar yr ystâd waith ar gyfer dwsinau o weision, ac adnoddau ar gyfer cig carw, tunnelli o ffrwythau, pysgod a mwy – a rheswm i gredu y medrai’r teulu fforddio’r danteithion newydd ar gael ar y farchnad.

Mae presenoldeb y gerddi hyn, y parciau, y perllannau, y pyllau, y gerddi llysiau muriog ac mewn sawl achos cytiau gwenyn, yn brawf digamsyniol bod y drefn borthiannol ynddynt yn gyffelyb i ystadau tebyg yn Lloegr a bod perchnogion yr ystadau hyn yn gwario’u harian er mwyn bwyta’n dda.

Pa gasgliadau ehangach gellir tynnu o hyn? Parhawn ar y trywydd y tro nesaf….


[1] Mae Cymru yn uned lai o faint na’r rheiny; doedd dim cymdeithas ddinesig, fwrgeisiol y gellid ei chymharu gydag eiddo’r gwledydd hynny; roedd gan lenorion Cymru ddiddordeb mawr mewn un maes penodol, sef crefydd; diffyg llyfrau ryseit brodorol o’r cyfnod – gwnaeth Elwyn Hughes waith trylwyr ar lyfrau ryseit tai mawrion Cymru, a dangos bod mwyafrif helaeth y ryseitiau wedi eu copio o lyfrau ryseit Saesneg y cyfnod.

[2] Defoe, ‘A tour thro’ the whole island of Great Britain, divided into circuits or journies’

[3] Thirsk, ‘Food in Early Modern England’. Gw. yn arbennig tud 59-95

[4] Hickey, Ireland’s Green Larder

[5] David, Rooted in History: Celebrating Carmarthenshire’s Park and Garden am fanylion llawnach ar y rhain


Cyfeiriadaeth ddethol

Margaret Hickey, Ireland’s Green Larder (London: Unbound, 2018)

Joan Thirsk, Food in Early Modern England (London: Continuum, 2006)

Penny David, Rooted in History (Llanbedr Pont Steffan: Fern Press, 2017)

One reply on “3. Y Tai Mawrion (rhan 1)”

Comments are closed.