Cychwynwn gydag arsylwadau un o’r tu allan i Gymru – teithiwr ac awdur a enillodd enwogrwydd am ei stori am fywyd ar ynys bellenig, Daniel Defoe (c. 1660 –1731 ). (Gweler y ddau ysgrif yma ac yma am beth o’r cefndir i’r pwt hwn, ac yn enwedig rhai o’r rhagdybiaethau yr hoffwn eu cyfiawnhau yn y gyfres hon o erthyglau).
Llundeiniwr o Sais oedd Defoe, a bu farw ymhell cyn i gynyrfiadau’r diwydiannu mawr tua diwedd y 18fed ganrif ddechrau newid ffyrdd o fyw a threfn cymdeithas. Cawn olwg o’r tu allan ganddo felly; golwg un nad oedd ganddo rhyw lawer o ddiddordeb yng Nghymru, ac a ymwelodd ond er trylwyredd yn ei ymdrech i deithio i bob cwr o Ynys Prydain – a bron iddo roi’r gorau i’r ymdrech. Cawn olwg hefyd o’r tu allan i gylch yr arsylwyr sy’n gyfarwydd i ni fel Cymry Cymraeg; mae’r lleisiau hanesyddol y byddwn yn arfer clywed ganddynt ac sy’n lliwio ein golwg o’r gorffennol yn deillio o’r 19fed ganrif ar y cyfan, neu wedi eu siapio’n sylweddol gan y ganrif honno. At hynny, canrifoedd crefydd oedd y 17eg a’r 18fed ganrif yng Nghymru yn ein hanesyddiaeth gonfensiynol; ac felly maent wedi pylio mwyfwy dros y degawdau diwethaf yn ein golwg o’r gorffennol, nes i’r cyfnod fynd yn oes o estroniaid yn ymhél â phethau digon estron. Ond beth oedd y bobl yn bwyta yn y Gymru estron hon?
At Defoe, felly, ac yn benodol chweched lythyr a thrydedd ran ei gyfrol, ‘A tour thro’ the whole island of Great Britain, divided into circuits or journies’ (1727). Gwerthodd y gyfrol yn hynod dda yn ystod y ganrif – dyma’i waith mwyaf llwyddiannus ag eithrio Robinson Crusoe ei hun. Yn amlwg roedd awydd ymhlith y cyhoedd llengar am waith fel hwn, a oedd i raddau helaeth yn cyflwyno genre newydd iddynt; teithio cadair-freichiau.
‘In passing from this part of the country to make a tour through Wales, we necessarily see the two counties of Hereford and Monmouth’
Dechreuwn gyda’i ddisgrifiad o ran o Swydd Henffordd er mwyn cael blas o’i arddull a’i ffordd o weld pethau:
“We were now on the borders of Wales, properly so call’d; for from the windows of Brampton-Castle, you have a fair prospect into the county of Radnor, which is, as it were, under its walls; nay, even this whole county of Hereford, was, if we may believe antiquity, a part of Wales, and was so esteem’d for many ages. The people of this county too, boast that they were a part of the antient Silures, who for so many ages withstood the Roman arms, and who could never be entirely conquer’d. But that’s an affair quite beyond my enquiry. I observ’d they are a diligent and laborious people, chiefly addicted to husbandry, and they boast, perhaps, not without reason, that they have the finest wool, and best hops, and the richest cyder in all Britain.
Indeed the wool about Leominster, and in the Hundred of Wigmore observ’d above, and the Golden Vale as ’tis call’d, for its richness on the banks of the river Dove, (all in this county) is the finest without exception, of any in England, the South Down wool not excepted: As for hops, they plant abundance indeed all over this county, and they are very good. And as for cyder, here it was, that several times for 20 miles together, we could get no beer or ale in their publick houses, only cyder; and that so very good, so fine, and so cheap, that we never found fault with the exchange; great quantities of this cyder are sent to London, even by land carriage tho’ so very remote, which is an evidence for the goodness of it, beyond contradiction.
One would hardly expect so pleasant, and fruitful a country as this, so near the barren mountains of Wales; but ’tis certain, that not any of our southern counties, the neighbourhood of London excepted, comes up to the fertility of this county, as Gloucester furnishes London with great quantities of cheese, so this county furnishes the same city with bacon in great quantities, and also with cyder as above.”
Roedd yn cymryd diddordeb mewn gwahanol agweddau ar yr ardaloedd y teithiai trwyddynt: nid yn unig tirlun a phensaernïaeth, ond hefyd hanes, traddodiad lleol, arferion a natur y bobl. Mae’n amlwg bod ganddo ddiddordeb arbennig mewn arfarnu ansawdd tir ac economi’r gwahanol ardaloedd y bydd yn ymweld â nhw.
Gallwn hefyd gael rhagflas o’i agwedd tuag at Gymru; fel ardal â chryn diddordeb hynafiaethol yn perthyn iddi, yn amlwg yn ‘wahanol’ i Loegr ac i’w gyfrif ar y cyfan yn ddiffrwyth o’i chymharu â Lloegr (‘so near the barren mountains of Wales’). Os yw’n rhagfarnllyd, rhagfarn o fath digon cyffredin sydd ganddo.
O ran swydd Henffordd ei hun gallwn ddweud nad oes dim amheuaeth yn ei ben mai Lloegr yw hon o hyd, a bod y rhan hon o’r sir yn amlwg yn llewyrchus ac wedi ei bendithio â thir a bwyd da. Ond dyw Defore ddim yn teimlo rheidrwydd i ddisgrifio pob man yr ymwela ag ef mewn oleuni da; disgrifia Henffordd ei hun fel old, mean built, and very dirty city.
Down at Sir Fynwy, lle noda Defoe nodweddion pwysigrwydd porthladdoedd Trefynwy, Casgwent a Chasnewydd yn eu tro:
Monmouth….at present ’tis rather a decay’d than a flourishing town, yet, it drives a considerable trade with the city of Bristol, by the navigation of the Wye.
….stands Chepstow, the sea port for all the towns seated on the Wye and Lug, and where their commerce seems to center. Here is a noble bridge over the Wye: To this town ships of good burthen may come up, and the tide runs here with the same impetuous current as at Bristol; the flood rising from six fathom, to six and a half at Chepstow Bridge. This is a place of very good trade, as is also Newport, a town of the like import upon the River Uske….
Beth allforir o’r porthladdoedd hyn? Gwenith yn bennaf – ac nid yn unig i fwydo dinas Bryste ond hefyd i fynd dramor:
This county furnishes great quantities of corn for exportation, and the Bristol merchants frequently load ships here, to go to Portugal, and other foreign countries with wheat; considering the mountainous part of the west of this county, ’tis much they should have such good corn, and so much of it to spare; but the eastern side of the county, and the neighbourhood of Herefordshire, supplies them.
Aiff yn ei flaen gan groesi i Forgannwg ac enwi ‘Kyrton-Beacon, Tumberlow, Blorench, Penvail, and Skirridan, are some of the names of these horrid mountains’ (fel odd yn gyffredin yn y cyfnod, gweld mynydd-dir trwy lygaid ffermwyr tir bras byddai Defoe. Doedd ‘sublime vistas’ oes diweddarach heb gyrraedd eto.) Oddi yno croesa Fannau Brycheiniog gan ddod i Sir Brycheiniog, ac yna noda’r bwyd a gai’r trigolion o lyn Syfaddan:
Brecknock-Mere, a large or long lake of water, two or three miles over; of which, they have a great many Welch fables, not worth relating: The best of them is, that a certain river call’d the Lheweni runs thro’ it, and keeps its colour in mid-chanel distinguish’d from the water of the lake, and as they say, never mingles with it. They take abundance of good fish in this lake, so that as is said of the river Thysse in Hungary; they say this lake is two thirds water, and one third fish.
Rhaid oedd iddo synnu o ystyried ei ragfarn yn erbyn tir mynyddig bod trigolion Cymreig Brycheiniog yn bwyta’n dda, a hynny ar draws y sir:
Tho’ this county be so mountainous, provisions are exceeding plentiful, and also very good all over the county.
Gallwn gasglu o’i gyfeiriad at wartheg (duon) y mynydd mai bwydydd eraill oedd ganddo gan sylw yma hefyd. Rhaid iddo edmygu’r gwartheg hyn:
….nor are these mountains useless, even to the city of London, as I have noted of other counties; for from hence they send yearly, great herds of black cattle to England, and which are known to fill our fairs and markets, even that of Smithfield it self.
A nodi hefyd bod yr un yn wir, mutatis mutandis, am Sir Faesyfed :
The yellow mountains of Radnorshire are the same, and their product of cattle is the same; nor did I meet with any thing new, and worth noticing, except monuments of antiquity, which are not the subject of my enquiry
Ymlaen a’r daith i Forgannwg eto, gan ymweld â Llandaf a Chaerdydd. Bron iddynt roi’r gorau eto gan mor ‘horrid’ y bryniau i gyd, ond cyrhaeddant y Fro gyda rhyddhad:
The south part of this country is a pleasant and agreeable place, and is very populous; ’tis also a very good, fertile, and rich soil, and the low grounds are so well cover’d with grass, and stock’d with cattle, that they supply the city of Bristol with butter in very great quantities salted and barrell’d up, just as Suffolk does the city of London.
Allforio yr oedd ffermwyr Bro Morgannwg (Cymraeg eu hiaith ar y pryd) yn ei wneud – a menyn yn enwedig. Gwyddom fod economi amaethyddol y siroedd o amgylch Llundain wedi datblygu yn ddigon llewyrchus erbyn hyn a bod amrywiaeth mawr mewn bwyd yn rhan gyffredin o fywyd i fwyafrif y trigolion. Roedd galwadau’r farchnad Lundeinig wedi arwain y gwahanol ardaloedd i arbenigo, ac er bod bri o hyd ar fod yn hunangynhaliol, roedd hyn yn ogystal ac nid ar draul cyfranogi o’r hyn a gynigid ar y farchnad (gan gynnwys ffigys, orennau, coffi a mwy bron trwy’r flwyddyn). Roedd sawl rheswm da i Defoe ddirmygu’r hyn ddaeth ar ei draws yn Ne Cymru – ond chafodd ddim rheswm dros wneud.
Aeth yn ei flaen tua’r gorllewin, gan edmygu porthladd Abertawe a glo Nedd cyn dod i Caermarthen, or Kaer-Vyrdhin, as the Welsh call it, the capital of the county of Kaermardhinshire.
Caiff yma eto ei synnu ar yr ochr orau, a disgrifia tref farchnad a phorthladd lewyrchus a dymunol:
This is an antient but not a decay’d town, pleasantly situated on the River Towy, or Tovy, which is navigable up to the town, for vessels of a moderate burthen. The town indeed is well built, and populous, and the country round it, is the most fruitful, of any part of all Wales, considering that it continues to be so for a great way; namely, thro’ all the middle of the county, and a great way into the next; nor is this county so mountainous and wild, as the rest of this part of Wales.
Noda hefyd fod y sir, yn wahanol iawn i heddiw, yn llawn caeau yd (ai haidd? Ai gwenith? Ai ceirch hyd yn oed?):
… it abounds in corn, and in fine flourishing meadows, as good as most are in Britain, and in which are fed, a very great number of good cattle.
Roedd hi’n amlwg iddo bod y bobl yma yn arfer ag ymwneud ag estroniaid fel efe – mae awgrym yma bod eu heconomi, fel eiddo Morgannwg a Gwent, yn gysylltiedig a gwe economi ewropeaidd a bod y bobl yn arfer felly â dylanwadau allanol. Ond fe all hefyd fod yn ffordd gwmpasog o nodi bod cyfran dda o dref Caerfyrddin yn medru’r Saesneg – sgil digon prin mewn ardaloedd mwy anghysbell:
We found the people of this county more civiliz’d and more curteous, than in the more mountainous parts, where the disposition of the inhabitants seems to be rough, like the country: But here as they seem to converse with the rest of the world, by their commerce, so they are more conversible than their neighbours.
Daw i Sir Benfro â’i physgoedfeydd:
Before we quitted the coast, we saw Tenbigh, the most agreeable town on all the sea coast of South Wales, except Pembroke, being a very good road for shipping, and well frequented: Here is a great fishery for herring in its season, a great colliery, or rather export of coals, and they also drive a very considerable trade to Ireland.
Caiff ei blesio’n arw gan Benfro ei hun:
This is the largest and richest, and at this time, the most flourishing town of all S. Wales: Here are a great many English merchants, and some of them men of good business; and they told us, there were near 200 sail of ships belong’d to the town, small and great; in a word, all this part of Wales is a rich and flourishing country, but especially this part is so very pleasant, and fertile, and is so well cultivated, that ’tis call’d by distinction, Little England, beyond Wales.
Geiriau amwys yw ‘fertile’ a ‘pleasant’ wrth gwrs, a byddai disgrifiad mwy manwl o fudd mawr i ni wrth geisio creu ein darlun o fwydydd hanesyddol Cymru. Ond y tu ol i’r geiriau hyn mae’r canfyddiad bod y tir yn debyg i diroedd da Middlesex yr oedd yn gyfarwydd â nhw. Ni all ‘well cultivated’ olygu dim ond bod cnydau (amrywiol, am mai dyna oedd yn Middlesex) yn tyfu mewn cyfran dda o’r caeau – ac felly bod y diet, tybiem, yn amrywiol hefyd. Ac er na chawn ddisgrifiad ganddo o’i brydau bwyd, mae’n werth nodi felly nad oedd wedi cael siom yn yr ymborth a gynigiwyd iddo.
Oherwydd er hyn oll, nid oedd Defoe yn or-hoff o Gymru:
From hence to St. Davids, the country begins to look like Wales again, dry, barren, and mountainous.
O hyn ymlaen llawer llai manwl yw ei ddisgrifiadau i gyd; cawn yr argraff ei fod wedi syrffedu braidd â bod mewn gwlad estron, a bod un mynydd yn y pendraw yn ddigon tebyg i’r nesa. Arwynebol a byr yw ei ddisgrifiadau o drefi gorllewin a Gogledd Cymru. O ran bwyd ac amaeth, dysgwn fod eog gwych i’w cael yn Afon Teifi; bod preiddiau mawr o ddefaid yn Sir Feirionydd; bod pobl y mynyddoedd yn bwyta torgoch o’r llynnoedd, a bod dyffryn Clwyd yn llawn gwenith: “the fields shining with corn, just ready for the reapers, the meadows green and flowery.”
Pa gasgliadau gellir tynnu felly wrth gofnodion y llygad-dyst o Saes hwn o gyflwr bwyd ac amaeth yng Nghymru yn yr 1720au? Yn gyntaf ac yn bennaf oll, mai ychydig a welodd Defoe yng Nghymru y medrai ddirmygu. Gwelsom eisoes nad nodwedd o’i arddull oedd ei fod yn hael ei glod am bob lle yr ymwelai â nhw. Roedd hyn yn wir am y bobl a welai hefyd – gallai fod yn hallt iawn ei feirniadaeth lle gwelai diffyg diwydiant, fel yn Kirkcudbright yn yr Alban:
…though here is an extraordinary salmon fishing, the salmon come and offer themselves, and go again, and cannot obtain the privilege of being made useful to mankind; for they take very few of them. They have also white fish, but cure none; and herrings, but pickle none. In a word, it is to me the wonder of all the towns of North-Britain; especially, being so near England, that it has all the invitations to trade that Nature can give them, but they take no notice of it. A man might say of them, that they have the Indies at their door, and will not dip into the wealth of them; a gold mine at their door, and will not dig it.
It is true, the reason is in part evident, namely, poverty; no money to build vessels, hire seamen, buy nets and materials for fishing, to cure the fish when it is catch’d, or to carry it to market when it is cur’d; and this discourages the mind, checks industry, and prevents all manner of application. People tell us, that slothfulness begets poverty, and it is true; but I must add too, that poverty makes ….In a word, the common people all over this country, not only are poor, but look poor; they appear dejected and discourag’d, as if they had given over all hopes of ever being otherwise than what they are.
Cawn ddim byd cyffelyb ar daith Defoe o gylch Cymru, a hynny yn ddigon i beri syndod o ystyried hiliaeth gyffredin y roes tuag at y Cymry, a hoffter amlwg personol Defoe o rwysg a llewyrch. Rhaid casglu felly na welodd rhyw lawer y gallai feirniadu; bod y wlad, ei threfi a’i phobl i’w gweld yn rhy daclus a llewyrchus iddo droi ei sen tuag atynt. Os na welodd balastai a neuaddau ysblennydd i’w disgrifio’n fanwl fel y gwelsai yng Nghaeredin ac mewn rhannau o Loegr, welodd e ddim tlodi enbyd chwaith.
O ystyried y canfyddiad (e.e. yn Elwyn Hughes) na fyddai’r Cymry yn gwneud rhyw lawer o ddefnydd o fwydydd gwyllt, mae sylwadau Defoe ar y diffyg pysgota yn Kircudbright o ddiddordeb hefyd. Hynny yw, mae absenoldeb unrhyw sylwadau tebyg gan Defoe am unrhyw leoliad yng Nghymru yn arwyddocaol. Mae tystiolaeth gref fod trigolion de-ddwyrain Lloegr yn y cyfnod hwn yn gwneud defnydd llawn o fwydydd y berth, a byddai Defoe felly yn gweld hyn fel rhan arferol o gynhaliaeth cefn-gwlad. Petai wedi gweld tystiolaeth bod y Cymry yn anwybyddu peth o’r bwyd gwyllt oedd o’u cwmpas, gallwn dybio y byddai wedi gwneud sylwadau am hyn. Ni wnaeth; ac felly dyma reswm pellach i amau casgliadau Elwyn Hughes ac eraill yn y mater hwn.
Yn anad dim, sylwadau cyffredinol ar ansawdd y tiroedd a’r trefi a welsai y mae Defoe yn eu cynnig yn ei nodiadau ar ei daith o amgylch Cymru. Gresyn na fyddai wedi sôn yn fanylach am y bwydydd a welsai yn y marchnadoedd, y tafarndai ac yn y mannau a arhosodd. Ond mae’r ffaith iddo ganfod amgylchiadau a oedd, cymerwn, yn gymharol i’r rhai a welsai yn Lloegr, ynddo’i hun yn werth nodi ac yn fan cychwyn da i’r drafodaeth ehangach.
Rhagor y tro nesa pan godwn gwr y llen ymhellach ar fwyd y tai mawrion yn y cyfnod hwn.
Cyfeiriadaeth
Defoe, D., ‘A tour thro’ the whole island of Great Britain, divided into circuits or journies’ (1727)
Comments are closed.