Dyma ail-weithio a chyhoeddi rhan o’m cyflwyniad yng nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2020:

Dyw tirlun bwyd Cymru heddiw ddim byd tebyg i’r hyn ydoedd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Dychmygwch y peth: gwlad o ffermydd cymysg yn bwydo ar y cyfan eu hardaloedd lleol,gyda diwylliant cryf o gynhyrchu cwrw bach a seidr, tyfu ffrwythau a llysiau, halltu moch a menyn gartre at ddefnydd y cartref, a hynny yn y parthau trefol yn ogystal â’r ardaloedd gwledig. Roedd diwydiant pysgota pwysig ar hyd y glannau, a bwydydd gwyllt eraill â thraddodiadau amrywiol yn perthyn iddynt yn rhan o’r ddeiat a’r ffordd o fyw – fel mae un o olygfeydd amlycaf Te yn y Grug, nofel enwog o’r cyfnod, yn porteadu: plant yn hel llus er mwyn gwneud teisen dymhorol.

Mae’n werth manylu’n ddyfnach ar rai o nodweddion ein hamaeth a’n diwylliant bwyd yn y cyfnod hwn, sydd ar gyrion cof byw o hyd, er mwyn gwerthfawrogi mor wahanol ydoedd i’r presennol:

  • Ffermio cymysg oedd yn nodweddu’r wlad, lle roedd tyfu grawn (gwenith ond hefyd ceirch a barlys) yn digwydd ochr yn ochr â magu anifeiliaid yn y parthau mynyddig a’r iseldiroedd fel ei gilydd.[1] Yn lle hynny, mae gyda ni ungnydiaeth (monocultures) bellach mewn rhannau helaeth o’r wlad.
  • Roedd perllannau yn rhan gyfarwydd o’r tirlun ac o’r economi wledig. Yna, bu gostyngiad o c.98% yn ein perllannau yng Nghymru dros yr 20fed ganrif.[2] Yn sgil hynny gwelsom ddiflaniad llwyr seidr o’n tirlun ac o’n bywydau – diod bwysig ar draws dros chwarter tir Cymru a oedd yn rhan o’r cyflog hyd yn oed i rai. Ac yn sgil hynny colli cyfle i ddatblygu cynnyrch traddodiadol i’w allforio.
  • Moch: roedd moch yn ganolog i ddeiat y mwyafrif o drigolion yn y wlad a’r ddinas fel ei gilydd ac roedden nhw i’w gweld ymhob man. Roedd hyn yn wir i’r fath raddau fel eu bod yn cael eu hystyried fel rhywbeth nodweddiadol o Gymreig, a theithwyr o Loegr hyd yn oed yn nodi cymaint o foch oedd yn y wlad. Daeth tro ar fyd: go brin fod pobl yn meddwl am foch fel rhywbeth nodweddiadol o Gymreig yn ein dydd ni.
  • Pysgod, ac mewn gwirionedd, bwydydd gwyllt o bob math. Roedd y rhain yn darparu bwyd am ddim i nifer ac yn sgil hynny yn cyfrannu amrywiaeth bwysig (a ffynhonnell protein a fitaminau cyfoethog) i’r ddeiat : cocos, llus, llysiau’r cloddiau, sewin a physgod yr afonydd ayyb.

Ond y tu hwnt i fanylion y bwydydd a chynnyrch y ffermydd, roedd natur y system fwyd yn wahanol i’r presennol mewn ffyrdd arwyddocaol hefyd. Yn gyntaf, roedd yr holl fwydydd a gynhyrchid yn y wlad yn gwbl organig (ymhell cyn i’r term hwnnw fynd i ddefnydd cyffredin) – ac felly gallwn gasglu o’r ffaith hwnnw yn unig eu bod yn ansoddol wahanol i’r bwydydd wedi eu prosesu a gawn yn ein harchfarchnadoedd heddiw. Y tu hwnt i hyn, oes oedd hon pan gyflogai amaeth rhyw 10% o’r boblogaeth mor ddiweddar â 1910, a hynny eisoes yn ganran lawer is na bron pobl gwlad arall yn Ewrop o ganlyniad i’r diwydiannu cynnar a ddigwyddodd yng Nghymru. Ond roedd gan ganran sylweddol uwch o’r boblogaeth law mewn cynhyrchu a chasglu eu bwyd eu hun – boed hynny trwy fochyn yn y cefn, tyfu llysiau a ffrwythau yn yr ardd, pysgota, herwhela, bragu adre a mwy – a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â norm ein dydd ni.

Gwlad wahanol yw’r gorffennol felly, ond gan ei bod hi’n wlad sy’n rhannu cymaint o briodoleddau ein gwlad ni – nid lleiaf ei thirwedd a’i natur, ei hinsawdd a rhannau ystyrlon o’i diwylliant -, fe ddylai ei nodweddion fod o ddiddordeb i ni, a hynny yn enwedig wrth drafod bwyd ac amaeth. Dwi am i ni weld a deall felly bod y presennol ddim yn anochel; nid er mwyn ein galw i fynd yn ôl ond er mwyn mabwysiadu safbwynt mwy goddrychol yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni, safbwynt sydd yn deall y gorffennol (yn ei holl amrywiaeth) ar ei delerau ei hun. Mewn geiriau eraill, nid y sefyllfa bresennol nac eiddo yr un oes arall yw’r model ar gyfer sut ddylai amaeth Cymru edrych. Ffrwyth blaenoriaethau, gwerthoedd a dewisiadau economaidd ac athronyddol yw hynny.

Dyna gymharu’r presennol felly gydag un cyfnod penodol o’n hanes bwyd. Ond y tu hwnt i’r enghraifft penodol hwn, oes pwysigrwydd a pherthnasedd ehangach yn perthyn i hanes bwyd ac amaeth sydd yn ei wneud yn faes pwysig i ni ei hystyried? Mae sawl rheswm da i feddwl hynny.

Yn gyntaf, mae’r gorffennol yn adnodd i ni. Yn wahanol i’r ffordd y byddwn ni’n tueddu synian amdano, ac efallai ei ddychmygu er hwylustod i ni ein hunain, nid un cyfnod mo’r gorffennol. Mae hyn yn werth pwysleisio: roedd y gorffennol yn llawn newid ac amrywiaeth, a doedd y newid hwnnw ddim i gyd yn llifo i un cyfeiriad (sef honiad y safbwynt ideolegol mai hanes cynnydd yw hanes i gyd). Gan fod y gorffennol yn llawn newid felly, a gan fod y presennol yn gynnyrch penderfyniadau dynol mewn nifer o ffyrdd (e.e. penderfyniadau unigol miliynau o ffermwyr a dinasyddion yn effeithio ar y gadwyn fwyd, penderfyniadau polisi llywodraethau o bob lliw, y naratifau cynhwysol y bydd ein diwylliant yn eu derbyn a’u lledaenu),  gallwn dynnu ar y gorffennol yn ei gyfanrwydd i’n helpu i feddwl am ein presennol a’n dyfodol a gweld posibiliadau annisgwyl. Er enghraifft, mewn oes lle mae pryderon am AI yn dinistrio swyddi a lle mae iechyd meddwl yn bla, a fyddai’n werth ceisio meddwl ar lefel polisi am ffyrdd i annog llawer mwy o bobl i weithio mewn amaeth eto? Mae manteision amlwg i hyn fel syniad o safbwynt darparu gwaith da i bobl mewn amgylchedd, sef yr awyr agored, y gwyddom bellach ei bod yn llesol i’r psyche dynol. Perthnasedd y gorffennol i’r drafodaeth yw ei bod yn dangos yn glir bod modd cyflogi cyfran llawer uwch o’r boblogaeth yn y sector bwyd ac amaeth, a’i bod yn awgrymu i ni rai o oblygiadau llai amlwg tynnu liferi polisi yn y cyfeiriad hwnnw: ail-boblogi ardaloedd gwledig, perthynas ddyrys tirfeddiannwyr a gweithwyr y tir, prisiau bwyd uwch o bosib – ond llai o angen i ddibynnu ar chwynladdwyr, plaladdwyr a ffwngladdwyr trwy ffermio mwy arddwys. Amaeth fel ateb i her AI felly?     Mae ystyriaeth ofalus o’r gorffennol yn ein galluogi i gloriannu’r syniad, a’i arfarnu mewn ffordd lai unllygeidiog nac ystyriaethau caeedig y gyfundrefn amaethyddol-economaidd bresennol.

Yn yr un modd, mae’r gorffennol yn darparu safbwynt amgen i ni, wedi ei seilio mewn ffaith ac nid theori, i gwestiynu’r presennol. Er enghraifft, ydy deiat trwch y boblogaeth yn iachach yn well -heddiw nac yn 1910, o ddychwelyd at y flwyddyn benodol honno yn ein hanes fel enghraifft mympwyol? Ar y naill law, mae syniad cyffredinol â dogn da o wirionedd yn perthyn iddo bod deiat y werin cyn yr ail ryfel byd yn ddiflas, undonog ac annigonol mewn sawl ffordd. Ond dylid oedi cyn derbyn y rhagfarn yn ddigwestiwn. Mae tystiolaeth ddigamsyniol erbyn hyn bod yr hyn a elwir ‘y diet gorllewinol’ yn arwain at glefydau difrifol o sawl math (gan gynnwys clefyd y galon, clefyd y siwgr, gordewdra, cancr, dementia) [3], tra bod llawer o’r clefydau oedd yn plagio cyfrannau tlotaf ein cymdeithas ym 1910 unai’n heintus neu’n gysylltiedig gyda diwydiant neu ddiffyg hylendid – nid diet.

Y clefyd mwyaf amlwg a gysylltid gyda diet diffygiol yn yr oes dan sylw oedd sgyrfi – ac mae’r dystiolaeth o Gymru o’r cyfnod yn awgrymu bod cyfraddau sgyrfi yn isel yn y boblogaeth gyffredinol. Yn fwy na hyn, mae tystiolaeth gynyddol wedi dod i’r fei dros y blynyddoedd diweddar o bwysigrwydd y coluddyn a’i meicrobiota o facteria ar gyfer iechyd. Bydd diet o fwyd heb ei brosesu gyda chyfran uchel o gynhwysion tymhorol wedi eu cynhyrchu o fewn cyfundrefn organig yn cyfrannu’n gryf i feicrobiota iach – a hynny’n gysylltiedig â iechyd y galon, y croen, y stumog a lefelau egni uwch. Ac er bod y ddadl o blaid manteision bwyd organig ar lefel maethynnau penodol yn wan (e.e. bod lefelau uwch o fitaminau neu fineralau penodol i’w cael o fewn moron organig i’w cymharu â moron anorganig), mae’r ddadl ar sail blas a ffresni yn gryfach. Beth sydd agosach at ein dealltwriaeth gyfredol o blataid o fwyd iach: diet cyffredin llafurwr Cymreig ym 1910 (yn cynnwys te cartref, wyau organig, cawl â llysiau’r gaeaf, maidd a bara ceirch), neu fwyd y sawl sy’n dibynnu ar fariau siocled, prydau parod a chig rhad ein archfarchnadoedd heddiw? Mae’r cwestiwn yn un agored, o leiaf.

Yn drydydd, mae’r gorffennol yn lliwio canfyddiad pobl o’r hyn sy’n ‘normal’ neu’n ‘dda’. Os ydyn ni’n credu mai cadw defaid, er enghraifft, fu swmp a sylwedd amaeth ein hardal ni ar hyd yr oesoedd, fe fydd hynny yn ein harwain i gysylltu’r arfer hwnnw gyda’n hunaniaeth leol. Mae hynny’n naturiol: yn gymwys neu’n gam, tynnwn ar y gorffennol i ddilysu arferion y presennol. Dyna arwain felly at ebychiadau fel hyn: ‘Allwch chi ddim ‘neud hynny yma – gwlad da godro yw hon, nid perllannau!’ Ond byddai edrych ar fapiau 1880 yn dangos i bod perllannau niferus yn y cylch ym 1880, ac archwiliad o’r llyfrau hanes yn dangos mai dim ond ers yr 1950au y diflannodd cyfran helaeth ohonynt o’r dirwedd. Dyna ddilysu wedyn ymgais i arallgyfeirio trwy ehangu cwmpas canfyddiad pobl o’r hyn sy’n normal yn eu bro a’u cymdogaeth.

Yn sgil hynny mae hefyd pedwaredd agwedd i’w hystyried, sef gwerth y gorffennol yn yr ymgais i fachnata a dweud stori ein bwyd gerbron y sawl fydd yn prynu’r bwyd hwnnw. Gwireb digon defnyddiol yw nad yw pobl, at ei gilydd, yn rhy hoff o newid. Tueddu i hoffi traddodiad a’r hyn sy’n rhoi i ni deimlad o ddiogelwch y byddwn ni, ac mae hynny yn enwedig o wir ym maes bwyd. Felly yn sgil hyn, un peth yw dweud ‘dwi am gynhyrchu caws dafad ar fy fferm ym Meirionydd’ a marchnata’r cynnyrch newydd cyffrous hwn. Ond peth arall wrth gwrs yw dweud, ‘dwi am ddechrau cynhyrchu eto un o fwydydd mwyaf traddodiadol y rhan hon o’r byd, caws dafad,’ a’i farchnata yn erbyn y cefnlun hwnnw (ac oes, mae hanes hir i gaws dafad yn ucheldir Cymru).

Yn olaf ac efallai bwysicaf yng ngoleuni argyfwng yr hinsawdd a’r newidiadau posib a ddaw yn sgil hynny i’n ffordd o fyw, mae ein hanes yn cynnig gwersi pwysig i ni am botensial ein tir a’r rhwystrau bioffisegol sydd arnom yn y cilcyn hwn o’r ddaear: os yw pobl wedi cynhyrchu rhyw bethau yma yn llwyddiannus yn y gorffennol, mae hynny’n dangos ei bod hi’n bosib gwneud, ac mewn ffordd sero-carbon hefyd. Doedd ein cyndeidiau ddim yn ffyliaid: os oedden nhw’n tyfu grawn ar draws Cymru, a hynny yn bennaf ar ffurf rhyg mewn rhai ardaloedd, ceirch mewn ardaloedd eraill a gwenith mewn rhannau eraill eto, gallwn dybio bod yna resymau da y tu ôl i hynny. Mae grawnfwydydd yn enghraifft da o hyn: doethineb confensiynol ein dydd yw bod amodau Cymru yn ei gwneud yn wlad anaddas iawn i dyfu grawn. Ond o graffu ar y ffeithiau, gwelir mai anaddas i dyfu grawn modern, mewn ffyrdd confensiynol, modern (sy’n syndod o newydd) yw amodau Cymru. Gwelais â’m llygad fy hun gae o wenith traddodiadol, chwe throedfedd o uchder yn tyfu yn nyffryn Aeron yn haf 2019. Roedd y gwenith wedi ei wthio i’r llawr gan stormydd Awst fwy nag un waith, ond wedi cynhyrchu cnwd da: byddai gwenith modern ddim wedi ffynnu o dan yr un amgylchiadau. Mutatis mutandis, mae’r un yn wir i wahanol raddau ar draws y sin fwyd. Ac o aros gyda’r grawnfwydydd, sut mae prosesu a gwneud blawd defnyddiol? Un opsiwn yw melinau dwr, sydd nid yn unig yn sero carbon, ond yn medru gwneud eu gwaith tawel, toreithiog heb ddefnyddio un Kwh o drydan, ond yn hytrach yn addasiad destlus i dirwedd fryniog ein gwlad.

Cyn cloi, dwi am gynnig rhai enghreifftiau penodol yng ngolau hyn oll o bethau o’n hanes bwyd a allai fod o fudd mawr eu hail-ystyried – fel ysbrydoliaeth:

  • Garddio trefol/ dinesig. Mae hanes o gynhyrchu bwyd yn ein trefi ers canrifoedd, ac yn enwedig o 1700 i’r rhyfel byd cyntaf, roedd o bwys. Gweler erthygl yma sy’n ymhelaethu.
  • Bara lawr. Ceir pwt am y bwydan annisgwyl ond cyfoethog yma.
  • Allforio menyn a chig eidion o ansawdd. Mae ffermdai cerrig niferus Eryri o oes y Tuduriaid yn tystio i’r cyfoeth wnaeth nifer mewn rhannau o Gymru trwy allforio gwartheg i farchnad fawr Llundain. Dyna sôn am y porthmyn wrth gwrs – ond nid rhyw draddodiad hyfryd diniwed oedd hyn, ond busnes – ffordd o wneud arian. Roedd ansawdd y gwartheg, ac ansawdd y cig yn sail i’r farchnad drawsffiniol a phroffidiol hon, oedd o bwys mawr i economi wledig Cymru am ganrifoedd. Gweler canol y darn hwn.
  • Diodydd – yn ogystal â chwrw, seidr, medd roedd diodydd eraill a oroesodd nes i de eu disodli: meddyglyn a diodgriafol yn ddau. Bydd erthyglau am y rhain ar y wefan yn y dyfodol.

I gloi felly, dyw ein ddoe ddim fel ein heddiw. Dyn ni wedi gweld mewn sawl ffordd bod bwyd ac amaeth hanesyddol Cymru yn amrywiol ei natur. O’r bwydydd a gynhyrchid, i’r canran o’r boblogaeth oedd yn cymryd rhan, i’r ffaith sylfaenol bod cymaint o fwyd yn cael ei gynhyrchu adre ar gyfer defnydd cartref. Mae’r gorffennol yn ein helpu i newid persbectif; i weld mai sefyllfa dros dro yw’r drefn bresennol ym mhob oes, a bod ein stori bwyd ni yn medru bod yn ehangach na dim ond stori’r hyn roedd y farchnad yn galw amdano dros y degawdau diwethaf.

Bwysicaf oll yn fy nhyb i, mae’r gorffennol yn cynnig posibiliadau amrywiol i ni – amcan o bosibiliadau ein gwlad – mewn byd heriol. Wrth sôn am yr argyfwng hinsawdd, son ydyn ni mewn gwirionedd am restr o heriau amrywiol ond cysylltiedig y gwyddom ni amdanyn nhw. Fe all bwyd ac amaeth fod yn rhan bwysig o’r ymateb i’r heriau hynny, mewn cymaint o ffyrdd: trwy gynnig sylfaen i fywoliaeth, i ffyniant ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd ac fel conglfaen bywyd cyfforddus, iach. Wrth i’r hinsawdd newid, mae lle i gredu y bydd modd cynhyrchu mwy yng Nghymru nag erioed o’r blaen: rhaid i ni ddechrau meddwl nawr am hynny, fel ein bod ni’n gwneud dewisiadau da am resymau da – a gall ymgeisio i ddeall y gorffennol yn ofalus dalu ar ei ganfed wrth i ni geisio gwneud hynny.

Os hoffech glywed rhagor…

Mae gen i lyfr newydd ar y gwell: ‘Welsh Food Stories’, cyhoeddi ddiwedd 2021 neu ddechrau 2022 gyda Gwasg Prifysgol Cymru. Gallwch dderbyn diweddariadau achlysurol iawn trwy roi eich ebost i’r blwch isod:


[1] Gweler enghraifft da ym mhrosiect Dyfi

[2] Amcangyfrif personol, yn sgil ffigyrau o’r arolygon amaethyddol o ddiwedd y 19eg ganrif, 1958 ac 1992 a drafodir yn Graves, C., Apples of Wales (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2018)

[3] Gw. gweithiau a ddyfynir yn e.e. Pollan, M., In Defence of Food (London: Penguin, 2008) ac Aujla, R., The Doctor’s Kitchen (London: HarperCollins, 2009)