Darn byr ar gyfer papur bro Dyffryn Nantlle yw hwn, a dyma’i osod yma hefyd er diddordeb pawb sydd mewn rhannau eraill o’r wlad.

Hyfrydwch oedd derbyn gwahoddiad i gyfrannu i ddigwyddiad yn Yr Orsaf, Dyffryn Nantlle fel rhan o raglen ‘GwyrddNi’ i drafod thema ‘Yr Iaith yn y Tir’. Noswaith yng nghwmni stafell lawn o bobl y fro, o dan gadeiryddiaeth ddeheuig Gerallt Pennant ac ochr-yn-ochr â’r Prifardd Elinor Gwynn.

Mae Elinor wedi gwneud gwaith manwl a dwfn yn cronni gwybodaeth ar enwau hynod leol ar fanylion yn y dirwedd ac yn enwedig felly ar yr arfordir, a hynny’n cwmpasu pob peth o wybodaeth leol pysgotwyr glannau Aber Tywi i enwau hanesyddol yn y Gymraeg ar liwiau nas defnyddir yn rheolaidd bellach. Yn ôl a ddeallaf nid yw cyfran helaeth o’r gwaith yma wedi ei gyhoeddi eto, a dyma gymryd y cyfle i fynegi’r gobaith y daw i hynny maes o law.

Cawsom sylwadau niferus o’r llawr hefyd, a minnau’n dysgu geiriau newydd o’r gynulleidfa; ‘gorof’ am allt goediog serth uwchben afon, ‘môr-flaidd’ am siarc a ‘crwnfa’ sef y rhan honno o’r môr wrth bysgota sydd o fewn cyrraedd ond y tu hwnt i’r don. Ond dyma fi’n teimlo’n fwyfwy anfodlon wrth adael, ein bod yn cylchu rhywbeth o bwys ac nad own i yn bersonol wedi llwyddo i fynegi’r peth canolog yr hoffwn fod wedi ei ddweud, ac na fuasai cyfle ychwaith i’w ddweud yn iawn mewn cyfrol Saesneg fel ag yw fy llyfr Tir yn y pendraw (hynny yw, er gwaetha fy mhrotestiadau mai ‘llyfr Cymraeg yn yr iaith fain’ ydyw!) Dyma roi ymgais arno felly.

***

Os nad oes gyda ni’r geiriau, sut gallwn ni warchod?

Ieithydd ydw i o ran cefndir yn anad dim, yn siarad ac ysgrifennu dwy iaith heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg i safon ddigon da, a chennyf rywfaint o gefndir proffesiynol ym meysydd academaidd iaith a chyfieithu. Dyna’r lens yr ydw i’n defnyddio, yn ddifeddwl bron, mewn sawl cyd-destun – ac mae’n rhoi, am wn i, ryw ychydig o bellter anorfod o’r ffordd y byddwn yn siarad a’r geiriau y byddwn yn eu defnyddio.

Mae gwarchod enwau llefydd yn amlwg o bwys i lawer iawn ohonom ni Gymry Cymraeg, a dwi’n meddwl yn aml iawn pan fydd amryw fyd ohonom yn ceisio mynegi pam ei fod yn bwysig i gadw hen enwau, bod yr esboniadau’n tueddu’n naturiol bron i fynd yn ddyfnach na sicrhau treftadaeth neu ymlyniad cenedlaetholgar yn unig. Meddai Tudur Owen ar S4C o fewn y misoedd diwethaf bod ‘enwau yn treiddio’n ddwfn i bwy ydan ni… yn gwreiddio lle i hanes, ac i’r bobl sy wedi byw yna. Unwaith wyt ti’n gwybod be ydy ystyr enw lle, ‘bang’ – mae e fel bod dimensiwn newydd wedi agor i ti!’

Pam fod Tudur, a chymaint ohonom, yn son am ‘ystyr’ enw lle yn y cyswllt yma? Pam fod arwyddocad i ystyr ‘cae rhyg’ neu ‘waun garanod’ neu ‘tyllgoed’ fel enwau ar leoliadau? (Cae rhyg – cae lle tyfid rhyg, a oedd yn rawn pwysig mewn ardaloedd oerach yng Nghymru hyd y 19eg ganrif; Waun garanod – tir agored, gwastad a gwlypaidd lle’r oedd garanod yn arfer byw; Tyllgoed – lle’r oedd arfer bod lliaws o goed gwag, ac awgrym cryf bod heidiau o wenyn gwyllt yno a pobl leol yn hel mêl.) Dwi’n meddwl, yn ei hanfod, mai’r rheswm yw am ein bod yn teimlo i’r enw gynnig cliwiau pwysig ecolegol a chymdeithasol, hynny yw fod yna allwedd i natur y darn tir/ môr, a pherthynas pobl â’r dernyn hwnnw, yn cael ei gynnig i ni yn yr enw.

Mae’r ddwy agwedd hon lawn bwysiced â’i gilydd. Yn gyntaf, yr ochr ecolegol; oes, mae newid, llanw a thrai yn nodweddu natur bywyd gwyllt ar y tir, a’r hinsawdd yn amrywio a deinameg rhywogaethau yn effeithio ar ei gilydd ddim yn rhoi sefyllfa statig o fewn byd natur. Ond ar y llaw arall, gorynys yn hemisffer y Gogledd yw talpyn daear Cymru, a daeareg y talpyn hwnnw a pheth wmbreth o’i nodweddion hinsoddol yn weddol ddigyfnewid ar bob graddfa ystyrlon i ddynolryw. Goblygiad hynny yw y bydd derwen a phorfa, gwas-y-neidr a gwylanod (a llu o rwyogaethau) bron yn rhwym o fod yn bresennol yma; ac o ymateb i’w gilydd ac i fryniau, pentydd, dolydd a chlogwyni’r tir hwn mewn ffyrdd gweddol bendant. Mae’r enwau, yn rhannol, yn rhoi disgrifiad ecolegol hir-dymor sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl y telpyn hwn wedi nodi hynny dros amser. Mae yna reswm pam fod y ‘wern’ lle mae hi.

Ond mae’r rheswm yna, er yn rhannol ecolegol, hefyd yn un cymdeithasol (neu ‘diwylliannol’ neu ‘ddynol’). Dyw pobl ddim erioed wedi enwi pob un nodwedd o’r wlad o’u cwmpas. Nid pob un llechwedd sy’n derbyn enw, na phob cyfadran o goedlan. Fel rheol, rydyn ni’n enwi pethau pan fod pwrpas i hynny. O’r herwydd, mae afonydd yn hanesyddol wedi eu nodweddu gan enwau manwl dros ben, a phob pwll a rhaeadr a thraethell yn derbyn label disgrifiadol. I wneud yn bennaf mae hyn â phwysigrwydd pysgota. Y weithred o ddibynnu ar ddŵr croyw yr afon i ddarparu protein maethlon, blasus ar ran pobl leol a wnaeth esgor ar enwau hudolus hyd afon Teifi. Yn yr un modd, ar y cyfan mae nodweddion penodol yn perthyn i gaeau gwahanol a defnydd y cae, i raddau o leia, yn adlewyrchu hynny. Ond fel cae cyfan y defnyddir cae – ac nid fel arfer fel clytwaith o is-gaeau. Ac o’r herwydd dyma roi a thraddodi enwau i’r caeau – ond nid, ar y cyfan, i rannau penodol o fewn y cae! Adlewyrchu defnydd, i raddau, y mae’r enwi.

Yr wrth-ddadl yn erbyn hyn oll, yn awtomatig bron, yw mai rhamantu y byddwn wrth gynnig dadleuon o’r fath; bod iaith ac enwau’n newid yn naturiol ac mai rhyw fath o geidwadaeth gibddall sydd gennym wrth fynnu cadw hen enwau. Dwi’n meddwl bod hyn yn ddadl sy’n deillio o gamddealltwriaeth elfennol ynghylch natur newid mewn iaith. Mae’n wir fod corpws geirfaol ieithoedd yn newid dros amser, ac yn wir hefyd nad oes gan bob iaith o bell ffordd eiriau am yr un pethau â’i gilydd. Mae hyn yn mynd yn llawer bellach na 60 o eiriau am eira yn yr Arctig ac yn cynnwys pethau mor drawiadol â’r ffordd y bydd ieithoedd yn rhifo (“1-5…llawer… llawer iawn… ac anrhifadwy” yw rhifolion rhai ieithoedd), yn disgrifio’r sbectrwm lliw (ein ‘glas…wellt’ ni a’r ‘coch’ Cymraeg sy’n cynnwys ‘oren’ a ‘brown’ – gair na ddefnyddiwyd yn ein hiaith cyn c. 1830) neu’n son am y dyfodol a’r gorffennol (p’un sydd ‘yn ôl’ a ph’un sydd ‘o’n blaenau’, dywedwch?)

Y cwestiwn sy’n codi o’r ffeithiau ieithyddol hyn yw pam fod ieithoedd yn disgrifio’r byd mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd? Oes yma ryw fath o gysylltiad rhwng cyd-destun siaradwyr yr iaith a’r ffordd y bydd yr iaith honno’n datblygu i ddisgrifio’r byd? O ddefnyddio lliwiau fel enghraifft; oes modd i ni dybio bod y diffyg cymharol mewn ffenomena lliw ‘oren’ o fewn y cyd-destun Cymreig hyd yn gymharol ddiweddar wedi cyfrannu at y ffaith iddi fod yn ystyrlon cynnwys ‘oren’ o fewn ‘coch’ a ‘melyn’ (ac i raddau wedyn o fewn i ‘melyngoch’)? Tra’i bod, er enghraifft, yn bwysig bod gennym dermau penodol am liwiau fel ‘gwinau’ neu ‘llygliw’ wrth ddisgrifio anifeiliaid gwaith?

Dwi ddim am fynd â’r ddadl yn rhy bell – mae yna elfen o hap, damwain a mympwy yn hyn oll wrth gwrs. Ond mae’n ymddangos yn amlwg i mi bod yna elfen arall, glir o fireinio wedi digwydd ar draws y cenedlaethau, wrth i bobl chwilio am ffyrdd addas, effeithiol i gyfathrebu gyda’i gilydd am hanfodion bywyd oddi fewn i’r amgylchfyd hwn yr ydym yn ei alw ers tro byd yn ‘Gymru’.

***

Mae yna reswm ‘gwyrdd’  neu ecolegol dros oedi ar y mater yma yn fy nhyb i, a’r rheswm hwnnw’n dod yn glir wrth droi realiti ein tirwedd o chwith. Petaem ni ond heddiw yn darganfod tir Cymru, ac gorfod enwi’r wlad, ai tlotach fyddai ein henwau newydd am y tir na’r hyn sydd gennym mewn realiti? Wrth gwrs y byddai; a beth yn union, wrth fapio ac enwi tir gwyryfol y Gymru newydd-ddarganfyddedig hon, fydden ni’n ei golli? Mae’n siwr gen i y byddai nodweddion o bob math ddim yn derbyn enw petaem ni ond yn enwi’r tir yn awr, yn 2025. Byddai ysbrydion y gorffennol, wrth gwrs, yn gwbl absennol, ac hefyd ffenomena ymylol neu achlysurol (golchfeydd defaid; iyrchod ar gerrig; cimwch ar lechi arfordirol ayyb). Byddai ein llygaid yn bwl, a manylder yn mynd ar goll.

A dyna bwysigrwydd hyn oll i mi; dyma graidd y berthynas rhwng iaith a’r tir. Mae’r ‘amgylchedd’ yn y pendraw yn rhy fawr o beth, rhy annelwig mewn ffordd, i ni fel pobl wir allu brwydro i’w ‘achub’. Gwahanol yw hi pan ddaw’n fater o ymladd i gadw bro, neu goedlan, neu fynydd penodol, lleol i ni. Medrwn ymladd i gadw lleoedd, cynefinoedd, rhywogaethau penodol am ein bod yn teimlo ein bod yn eu hadnabod. Ac er mwyn hynny, er mwyn wedyn medru ymladd i gadw dolydd rhag cael eu datblygu, neu lechwedd rhag gael ei reibio, rhaid medru eu diffinio a’u henwi. Cofiwn Dryweryn; achubwn Gaeau Ffos Fach ayyb.

Hynny yw; rheidrwydd yw adnabod er mwyn gallu gwarchod. Heb enwi, go brin bod yna adnabod o gwbl. Dyna pam i mi fod iaith yn elfen gwbl anhepgor o unrhyw ymgais amgylcheddol neu gadwriaethol.

***

Mae’n bosib fy mod i, yn hyn oll, yn ceisio rhoi fy mys ar rywbeth sydd i weld yn bwysig ac yn wir i mi, ond sydd ddim yn gwneud rhyw lawer o sens i eraill. Dwi’n derbyn hynny. Ond ceisio mynegu rhywbeth sy ychydig yn fwy na hynny yr ydw i; ceisio dweud fod yma ffordd o feddwl, agwedd fel petai, sydd at ei gilydd yn eitha cyffredin o fewn y diwylliant Cymraeg. Fy mod, mewn geiriau eraill, yn rhoi yn fy ffordd fy hun ryw ganfyddiad am y cysylltiad rhwng iaith, y tir – y gymdeithas, a’r amgylchedd – sydd yn gyffredin i lawer ohonom.

Does gen i ddim diddordeb mewn gor-ddweud; dwi ddim yn ceisio honni fod ‘y Cymry’ yn gynhenid ‘werdd’ mewn rhyw ffordd ddihafal. Ond tybed a oes yna rywbeth yma, dywedwch?

Carwyn Graves

Caerfyrddin, Ebrill 2025

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *