Thema flaenllaw mewn nofelau Cymraeg diweddar yw goroesiad yr unigolyn a’i ddiwylliant mewn byd dystopaidd. Dyna briodi unigolyddiaeth gref diwylliant y Cymry gyda’u dwy ofn dyfnaf yn 2020: darfod am eu diwylliant, a diflaniad y gwareiddiad ehangach y perthynant iddo trwy’r hyn a sonnir yn gynyddol amdano yn yr iaith fain fel collapse. Yn erbyn y cefndir hwn, mae cyfraniad llyfr unigryw y diweddar athronydd David Fleming, Lean Logic, yn amhrisiadwy i ni fel cenedl. Cymer hwn ddadfeiliad ein gwareiddiad diwydiannol presennol fel man cychwyn ac nid terfyn, a cheisia amlinellu yn sgil hynny seiliau gwaraidd ar gyfer cymdeithasau’r dyfodol a fydd yn gorfod byw dan gyfyngiadau y collon ni olwg ohonynt.

Yr her o fyw mewn byd o waith llaw unwaith eto yw un o’r drychiolaethau y mae’n rhaid i’r prif gymeriad, Rowenna, fynd i’r afael â nhw yn Llyfr Glas Nebo. Ac nid tân siafins oedd ffenomenonnofelaidd Manon Steffan Ros. Pan enillodd y Daniel Owen yn 2018 ac yna mynd ymlaen i dorri recordiau am werthiant llyfrau Cymraeg, roedd yn dilyn rhych a agorwyd iddo eisoes gan erydr pwysig o fewn y diwylliant gorllewinol y mae’r bychanfyd Cymraeg yn rhan ohono. Nid lladd ar gampwaith Manon Steffan Ros mo nodi hynny; ond nid hap a damwain oedd hi i Nebo ragflaenu nofel lwyddiannus Llwyd Owen ar destun tebyg iawn, Iaith y Nefoedd (2019) a dilyn yn ôl traed Ebargofiant Jerry Hunter (2014) ac Y Dŵr Lloyd Jones (2009). Roedd yr awduron hyn yn ymateb ar un lefel i argyfwng parhaol y diwylliant Cymraeg ac o’r herwydd yn taro tant tragwyddol ymhlith eu darllenwyr, ond ar lefel mwy arwyddocaol wedi eu gorfodi yn yr oes sydd ohoni i gyfosod yr argyfwng hwnnw ochr yn ochr â’r argyfwng mwy sydd yn ysgubo dros wareiddiad technolegol y byd gorllewinol.

Dystopia – byd ar chwâl – yw llwyfan ac mewn sawl ffordd ffocws drama’r nofelau hyn. Ceisiant fynd i’r afael yn ddychmygus gyda’r posibilrwydd y bydd ein gwareiddiad gorllewinol gwegianllyd yn dymchwel o dan ei bwysau ei hun, ac y bydd yn rhaid i’r unigolyn ddarganfod ffordd trwy’r llanast a ddaw yn sgil hynny. Er bod y symbyliad i ddychmygu senario felly yn deillio i raddau helaeth o realiti bioffisegol ac economaidd ein hoes (onid yw bywyd eisoes yn ddystopaidd yn y ffyrdd hyn i gyfran sylweddol o bobl ein byd heddiw?), anodd peidio â theimlo nad yw ofnau cyfredol isymwybod y diwylliant eingl-americanaidd hefyd wedi eu hadlewyrchu yn naratif y nofelau hyn. Mae hynny yn ei hun yn adlewyrchu’r ffaith bod ymwybod diwylliannol y Cymry yn tynnu’n helaeth ar ddiwylliant Disney a Netflix, a bod y grymoedd sy’n herio bodolaeth y Cymry a’u cenedl yn fyd-eang yn eu graddfa. Ond i’r graddau y mae hynny’n wir, collir y cyfle i osod y cwestiynau canolog a godir yma o fewn disgwrs ehangach a mwy hanesyddol. Sut mae goroesi’r dystopia sydd ar y gorwel yw cwestiwn ein hawduron Cymraeg ac i raddau helaeth y diwylliant ehangach erbyn hyn felly,  ond er dewrder yr awduron mewn cynnig atebion gonest a chignoeth iddo, ffrwythlonach o bosib fyddai gofyn cwestiwn arall, cysylltiedig.

****

Nid newyddbeth yw’r her o fyw gyda’n gilydd fel pobl mewn creadigaeth syrthiedig, lle mae gwaith yn drwm ac yn gorfforol ei natur, a lle mae ein hymdrechion mwyaf yn boenus o agored i ddifodiant trwy law grymoedd sydd ymhell y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Dyma fu rhan sylweddol o’r profiad dynol erioed, ac o’r herwydd mae adnoddau deallusol cyfoethog gennym o fewn sawl traddodiad gan gynnwys ein heiddo Cymreig ein hun a’n gwareiddiad gorllewinol ehangach y gallwn dynnu arnynt er mwyn mynd i’r afael â’r her hwn. Nid sut mae creu iwtopia, sef ffrwd arall ein gwareiddiad a gweithgaredd ddiffrwyth yr 1960au, Stewart Brand a dyffryn Silicon, ond yn hytrach sut mae osgoi dystopia. Neu o’i ehangu: pa adnoddau deallusol a diwylliannol sydd ar gael i ni i’n helpu i gyd-fyw mewn dyfodol a allai deimlo mewn rhai ffyrdd yn bur dystopaidd? Mae’r man cychwyn yn arwyddocaol i amlinelliad gweddill y daith, a dyma yw’r man cychwyn pellweledol a gawn yn Lean Logic gan David Fleming.

Un o ragdybiaethau sylfaenol y gwaith hwn yw y bydd llai o ynni ar gael i gynnal cymdeithasau’r dyfodol nag y bu gan gymdeithasau’r Gorllewin yn ystod yr 20fed ganrif, ac y bydd hynny mewn amrywiol ffyrdd yn tanseilio elfennau craidd o’n gwareiddiad technolegol. Nid yn unig hynny, ond bydd ansefydlogi’r hinsawdd yn cael effeithiau andwyol cynyddol ac anrhagweladwy a’r ddau ffenomen hyn yn peri bod ffordd o fyw ‘normal’ gorllewinol y degawdau diwethaf yn mynd yn atgof yn unig i ran helaeth o’r byd. Nid yr adolygiad hwn yw’r lle i arfarnu yn wyddonol y rhagdybiaeth ganolog hon, sef yng ngeiriau Fleming bod climacteric ar draflyncu’r byd gorllewinol trwy gyfuniad o:

‘…deep deficits in *energy, *water and *food, along with *climate change, shrinking land areas as the seas rise, and heat, drought and storm affect the land that remains. There is also the prospect of acidic oceans which neither provide food nor remove carbon; ecologies degraded by introduced plants and animals; the failure of keystone species such as bees and plankton; and the depletion of minerals, including the phosphates on which we depend for a fertile soil.’[1]

Y dasg a osododd Fleming i’w hun oedd rhagweld yr effeithiau a gai’r newidiadau hynny ar gymdeithasau gorllewinol, a cheisio braslunio seiliau gwaraidd ar gyfer cymdeithasau a fyddai’n gweithredu dan gyfyngiadau o’r fath ar sail mewnwelediadau ac adnoddau sydd eisoes yn bodoli o fewn ein diwylliant.

Gwna hynny yn y gyfrol syfrdanol hon, sydd rhyw 600 dudalen o hyd, ar ffurf geiriadur. Ceir yma gasgliad o A hyd Z o ddiffiniadau o’r syniadau craidd o fewn y traddodiad gorllewinol a’r tu hwnt a allai gynnig llwybr o’r gors. Dyma drafod felly bopeth o *Systems Thinking, i *Narrative Truth, *Nanotechnology i *Tactile Deprivation, *Leisure i *Capital mewn cyfres o gofnodion a amrywia o gwta frawddeg mewn hyd (e.e. *Necessity: 1. “The plea for every infringement of human freedom.” William Pitt, 18 November 1783  2. The considered product of *reflection) i draethodau o sawl tudalen. Creir brodwaith ddwys rhwng y cofnodion trwy fodd y * dirifedi sy’n arwain y darllenydd i gofnodion gwahanol ac i gyfeiriadau rhyngddisgyblaethol annisgwyl dro ar ôl tro, a’r cwbl wedi ei adeiladu ar seiliau llyfryddiaeth nodedig o eangfrydig. Dyma ffordd anghonfensiynol o gyflwyno dadl athronyddol a gwleidyddol, ond un sy’n gweddu i’r syniad canolog bod yr heriau sy’n ein wynebu yn mor amlochrog eu natur fel bod rhaid tynnu ar syniadau o sawl gwyddor gwahanol er mwyn mynd i’r afael â nhw. Er bod llawer y gellid ei ddweud am ei weledigaeth o sawl ongl felly, hoeliwn ein sylw ar un o themâu canolog ei ddadl fawr sydd yn cyffwrdd yn agos â sefyllfa’r Cymry, sef lle diwylliant:

*Culture. The culture of a *community is its *art, music, dance, *skills, *traditions, *virtues, *humour, *carnival, conventions and *conversation. These give structure and shape to community – like the foundational strands used in basket-making, round which you wind the texture of the basket itself…. Starting some three centuries ago, the *market economy has, with growing confidence, been the source and framework for a loose and easy-going but effective civil society and social order. When this fades, there will be no option other than to turn to a rich culture and social capital to take on this role. The culture of the future will have a challenging job to do, which seems to be unrealistic at a time when it is substantially reduced to an optional, spectator activity. And yet it is the brief era of the market as the dominant source of social *cohesion – no more than the interval between acts in human history – that has been the *exception.”[2]

Rhan fawr felly o ddadl Fleming yw bod yr adnoddau sydd angen arnom i oroesi ac efallai hyd yn oed ffynnu yn y dyfodol i’w cael yn bennaf nid mewn economeg neu dechnoleg ond mewn diwylliant. Seilia hyn ar fewnwelediad clir o bwysigrwydd ymddiriedaeth: hanfod economi yw cydweithio, ac wrth fod pobl yn ymddiried yn ei gilydd am eu bod yn rhannu profiad cyffredin o’r byd, adeiledir y gallu hanfodol hwnnw i gytuno ar brosiectau cyffredin, gwneud penderfyniadau a chyd-adeiladu. O dderbyn hyn, mae modd tynnu ffenomena fel sgyrsio, dathliadau, doethineb lleol a rhoddion o ymylon y disgwrs ar argyfwng ein hoes, a’u gosod wrth graidd y drafodaeth. Dyma wreiddio’r ymgais i feddwl yn ofalus am sefyllfa bresennol ein gwareiddiad mewn disgrifiad oesol o fywyd y ddynoliaeth: pobl yn gweithio gyda’i gilydd o fewn naratif penodol am eu harferion sydd wedi ein harwain i’r lle hwnnw, ac yn y maes hwnnw hefyd y bydd yn rhaid edrych am y llwybr allan.

Ond nid galwad mo hon i greu diwylliant newydd, a fyddai’n caru’r fam-ddaear neu yn cydnabod yr ysbryd mewnol neu ryw neo-grefyddiaeth: yn hytrach, galwad i ymwreiddio mewn diwylliannau penodol, lleol a real a’u gofynion a galwadau diriaethol ar yr unigolyn. Fel y noda, ‘only in a prosperous market economy is it rational to go confidently for self-fulfillment, doing it on your own without having to worry about the *ethics and *narrative of the the group and society you belong to’. Mewn geiriau eraill, cydnebydd mai ystad normal y ddynoliaeth yw perthyn i grwpiau a chymunedau o wahanol fathau, a bod y grwpiau hynny yn tueddu bod yn llawer llai o ran maint, ac yn llawer mwy lleol eu hanian nac ydynt o fewn cymdeithasau cyfoethog cyfalafiaeth hwyr. Y cysylltiad dynol sy’n rhoi digon o drwch i wead cymdeithas i ganiatau i bobl â chefndiroedd neu werthoedd gwahanol i’w gilydd i gyd-fyw a chydweithio. Dyma ddadlau felly nad â’r un teclynau a ddefnyddiwyd i greu’r sefyllfa bresennol y mae canfod y ffordd allan ohoni: nid ar raddfa gorfforaethol yr eir i’r afael â heriau’r oes, ond ar raddfa ddynol. Ac mae hyn oll yn hynod berthnasol i sefyllfa argyfyngus y gwareiddiad Cymraeg – neu’r gymuned Gymraeg.

****

Ar ôl misoedd o baratoi, â phosteri ar hysbysfyrddau’r pentref yn malu yn y glaw ac â swn paratoi’r te yn atseinio yng nghegin neuadd y pentref, daeth diwrnod yr eisteddfod leol. Dyma fenter amhroffidiol sydd serch hynny yn parhau i atgyfnerthu rhwymau bro, iaith a chymdeithas i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o fewn nifer o’n cymunedau Cymraeg. Yma, mae popeth ar raddfa ddynol. Ac os bydd awydd gan rai yn y gymuned i weld newid yn y drefn, bydd modd gwneud hynny – trwy drafodaeth a dadl gyda rhwyrai fydd hefyd yn rhan o’r gymuned honno. Bydd anghydfod, mae’n siŵr (ond, bydd modd tynnu ar yr hyn a elwir yn Lean Logic yn *Grammar cyffredin er mwyn trafod y rheiny). Efallai eir ar ryw drywydd newydd: efallai na wneir. Ond yn sgil trafodaeth rhwng y bobl iawn (Ceri a Joyce, Anwen, Rob a Lloyd y tro hwn) deuir i benderfyniad y glynir iddo gan bawb ond un, a hwnnw yn rhefru ymlaen am y peth yn hir wedi i bawb arall roi’r gorau i wrando. Enillodd yr eisteddfod ei hun erioed wobr, na rhyw lawer o nawdd na sylw – ond fe fu yn rhan o fywyd a chwedloniaeth trigolion ardal gyfyng o Gymru.

Dagrau pethau o fewn y gyfundrefn sydd ohoni yw nad oes lle oddi fewn iddi i ddiwylliannau lleiafrifol, hanfodol dynol eu graddfa, i oroesi yn yr hir dymor. Tueddiad diwyro’r farchnad amhersonol yw teneuo gafael diwylliannau cynhenid ar bobl, ar draul ei buddiannau ei hun (gweler llu o wledydd y byd mwyafrifol a’r newidiadau a welir yn sgil cyrhaeddiad y farchnad orllewinol yno am enghreifftiau dirdynnol o hyn). Hyd yn oed gyda grym y wladwriaeth yn talu gwrogaeth i fuddiannau iaith leiafrifol fel yn ein hachos ni, nid gobeithiol mo’r argoelion ar gyfer dyfodol byw i’r drefn Gymraeg o fewn y gyfundrefn bresennol. Ond mae’r teneuo hwn yn ein diwylliant hefyd yn ddrygbeth yn wyneb y dyfodol, am fod ein diwylliant yn ei hanfod yn un plwyfol, a ieuwyd ers dechrau oes ysgrifen i gilcyn penodol o ddaear ac i gymuned gymharol fechan o bobl. Hynny yw, mae llawer o nodweddion (y gwych a’r gwachul) ein diwylliant Cymraeg yn bodoli am fod y cwbl yn gweithredu ar raddfa ddynol: y bodlonrwydd i glodfori a’r amharodrwydd i herio; yr arwyddocâd a fuddsoddir mewn llefydd, a’r geidwadaeth egalitaraidd; y ffaith mai gweithgaredd gymunedol ac nid adloniant cyfalafol yw ein cysyniad pennaf o ‘ddiwylliant’. Mae’r rhain yn declynnau pwerus yn wyneb dyfodol simsan y gwareiddiad ehangach – os gallwn ddal gafael ynddynt a’u datblygu. Ac er cystal safon y garfan o weithiau llenyddol Cymraeg y cyfeiriwyd atynt uchod, maent i gyd yn ddiffygiol yn eu methiant dychmygus i weld dyfodol amgen nad yw’n unigolyddol ac sydd yn gwneud y dewis i fanteisio ar yr adnoddau cyfoethog hyn.

O na fyddai mor hawdd! Ac mae un anhawster sylweddol, pellach. Yn ddiwylliannol ac yn economaidd, chwedl Fleming, y lleol a’r dynol yw’r allwedd. Ond sgil-effaith ffocws o’r fath ar ddiwylliant lleol, dynol a chydlynol yw’r perygl oesol o eithrio’r sawl sydd y tu allan iddo. Dyma wendid pennaf dadansoddiad Fleming, sef mewn dadl dreiddgar ac eangfrydig iddo golli golwg ar un o heriau moesol pennaf ein hoes: mudo poblogaeth. Mae’n hepgoriad difrifol, am fod mudo yn un o’r dewisiadau personol amlycaf a gorau i niferoedd mawr o bobl drwy hanes, sydd fel ffenomen ar lefel cymdeithasol yn cynrychioli un o rymoedd mwyaf llif hanes. Ac yn sgil newid hinsawdd, mae bron yn anochel y gwelwn mudo ar raddfa anferthol dros y degawdau nesaf o’r parthau hynny o’r byd a eith yn rhy beryglus i fyw ynddynt i’r parthau hynny (fel ynysoedd Prydain) a fydd yn parhau i fwynhau amodau cymharol cyfforddus. Gan anwybyddu’r ffaith sylfaenol bod y realiti hwn eisoes yn cyflwyno her moesol mwy, o bosib, nag y gall ein systemau politicaidd a’n fframweithiau deallusol ddygymod â nhw, dyma realiti a allai hefyd ddryllio sawl ymgais i adeiladu diwylliant ‘main’ (lean) fel y coledda Fleming. Hynny yw, mae’n amlwg bellach bod yn rhaid i ddiwylliant cyffredin a gais ddarparu fframwaith dderbyniol i fywyd cenedlaethau’r dyfodol fod yn un sydd yn medru croesawu ffoaduriaid – ac rydym ar hyn o bryd yn bell o fod yn y lle hwnnw.

Beth felly yw collapse yn Gymraeg? Mae’n gwestiwn digon difrifol: sef sut gallwn drafod gyda’n gilydd y realiti hwn sy’n ein hwynebu fel rhan freintiedig o’r system wleidyddol-economaidd sydd ohoni. Mae’r termau a ddefnyddiwn yn bwysig am eu bod yn llunio natur y drafodaeth. Y Terfyn chwedl Nebo – dyna derm anffodus o derfynol. Chwalfa, dadfeiliad, dymchwel, syrthfa, ysigo….datchwyddo: does dim prinder termau. Ond pa bynnag derm a goleddir, siawns mai’r gamp fawr fydd osgoi tueddiad deuol, du-a-gwyn y disgwrs cyfredol a thrafod y dewisiadau a’r degawdau anodd o’n blaen gyda’r amrywiaeth o arlliwiau sy’n gweddu i ddyfodol a fydd yn ddi-os mor llawn amrywiaeth â phob oes o’r blaen. Pan syrthiodd yr ymerodraethau Rhufeinig a Maya fel ei gilydd, parhau wnaeth bywyd o flwyddyn i flwyddyn i’r mwyafrif, gydag ambell i episod dramatig yn torri ar draws y rigol gydag argoel o’r hyn oedd ar droed.  Newidiodd diwylliannau pobl gorllewin Ewrop a phenrhyn Yucatán fel ei gilydd yn ystod y cyfnodau hyn, mewn ymateb i’w realiti. Ein braint ryfedd ni yw bod mewn sefyllfa lle gallwn adnabod amlinelliad yr hyn sy’n dod atom, a dewis ein hymateb diwylliannol iddo. Os felly, y cwestiwn pwysig y down i’w drafod, gobeithio, yw nid beth yw collapse, ond beth yw diwylliant yn Gymraeg? A’r cwestiwn amgenach y down i’w drafod, gobeithio, yw hyn: beth yw Wilkommenskultur yn Gymraeg?


[1] Tud. 43

[2] Tud. 85